Llansannan: Sefydlu ymgyrch i wrthwynebu tyrbinau gwynt 590 troedfedd o uchder

Newyddion S4C
Fferm wynt Llansannan

Mae ymgyrch wedi cychwyn i wrthwynebu fferm wynt newydd ychydig filltiroedd o dref Dinbych. 

Mae cwmni o’r Eidal yn bwriadu codi pump o dyrbinau 180m (590 troedfedd) o uchder ar fryn o’r enw Mynydd Tryfan ger pentref Llansannan. 

Ond mae trigolion lleol yn ofni am effeithiau tyrbinau o’r maint. 

Doedd y datblygwyr, Alerion UK, ddim am wneud sylw gan ei bod hi’n gynnar yn y broses. 

Mae Tomos Griffiths a’i deulu’n ffermio gyferbyn â’r safle ers pedair cenhedlaeth ac yn dweud y gallai’r datblygiad amharu’n fawr arnynt.

“'Den ni wedi arfer byw yn fa’ma heb ddim sŵn a hefyd mae nhw’n deud pan mae’r haul yn sgleinio ar y tyrbinau’n treolli, fydd flicker yn sgleinio fewn i’r tŷ.” meddai Mr Griffiths. 

“A fydd rhaid cario’r trydan o ‘ma i rywle, felly falle fydd ‘na lot mwy o ffermydd yn cael eu amharu ac yn cael polion yn difetha darnau da o dir.”

Image
Tomos Griffiths.JPG
Tomos Griffiths

Mae cwmni egni Alerion o’r Eidal yn bwriadu codi pum tyrbin 180m (590 troedfedd) o uchder, ar y bryn sy’n cael ei alw’n Fynydd Tryfan, ddwy filltir o Lansannan. 

Bydd y rhai agosaf 500m (1,640 troedfedd) o rai cartrefi. 

Dywedodd chwaer Tomos, Sioned Griffiths, sy’n byw 800m o’r safle arfaethedig bod angen i’r tyrbinau fod yn bellach oddi wrth aelwydydd. 

“Dim y maint, ond pa mor agos ydyn nhw at y tai," meddai Ms Griffiths. "Dwi’m yn meddwl bod hynny wedi digwydd o’r blaen. 

"Yn y lleoliadau eraill o gwmpas fan hyn, fatha Llyn Brenig a’r Alwen does na ddim cartrefi preswyl mor agos â be’ fydd rhain i ni.

“Hefyd o ran maint, dydy’r mynydd ei hun ddim yn uchel iawn felly ‘dech chi’n sôn am bump Blackpool Tower ar ben y mynydd.

“Mae’r maint allan o proportion i’r ardal.”

Image
Sioned Griffiths.JPG
Sioned Griffiths

Buasai’r tyrbinau’n uwch na Thŵr Blackpool (158m / 518troedfedd) ac yn nes at uchder adeilad y Gherkin (180m / 591 troedfedd) yn Llundain. 

Ond buasai’n llai na thyrbinau eraill sydd yn y broses gynllunio mewn rhannau eraill o Gymru, fel fferm wynt Y Bryn (250m /  820 troedfedd) ger Port Talbot. 

Tua tair milltir o Fynydd Tryfan mae Fferm Wynt Brenig ble mae 16 o dyrbinau 110m (360 troedfedd) yn cynhyrchu hyd at 37MW o drydan. 

Buasai’r pump trybin mwy ar Fynydd Tryfan yn medru creu hyd at 24MW, yn ôl y datblygwyr. 

Bythefnos yn ôl fe ddaeth 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Llansannan ble mae Eifion Jones yn byw. 

“Mi ddaeth allan yng nghyfarfod cymuned y pentref fis Mawrth, jyst brawddeg ac ar ôl hynny mae uffern wedi agor," meddai.

“Mae pobl wedi bod yn brysur ofnadwy i ffindio allan be’ sy’n mynd ymlaen. Dyna’n problem ni, ‘den ni ddim yn gwybod dim byd.”

Image
Eifion Jones.JPG
Eifion Jones

Gan fod y prosiect yn fwy na 10MW, corff cenedlaethol Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru fydd yn asesu’r caniatad i Fferm Wynt Mynydd Tryfan. 

Mae’r datblygwyr wedi cyflwyno dogfennau ond mae’n gynnar yn y broses. 

Doedd y datblygwyr Alerion UK na’r perchennog tir ddim eisiau gwneud sylw, pan gysylltom ni gyda nhw. 

Gyda 70 o gynlluniau ynni ar y gweill ar draws Cymru, mae mudiad Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn galw am gynllun cenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy fydd yn gwarchod cymunedau a’r tirlun. 

Image
Tryfan2.JPG
Mynydd Tryfan ger pentref Llansannan. 

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol bod rhaid taclo newid hinsawdd wrth weithio gyda chymunedau a bod potential enfawr mewn ynni adnewyddol ar y môr. 

Mae Llafur eisiau i Gymru fod yn annibynnol o ran ynni ffynonnellau glan lleol, fydd medden nhw, cadw biliau’n isel, gwarchod rhog marchnadoedd bydeang ansefydlog a sicrhau bod cymunedau’n elwa.  

Mi ddwedodd Plaid Cymru y bydden nhw’n blaenoriaethu perchnogaeth gymunedol o ynni gwynt - lle buasai rhaid i’r gymuned leol fod yn berchen ar bymtheg y cant o bob prosiect dros 10MW. 

Yn ôl y Blaid Werdd mae nhw eisiau gweld pwyslais ar fentrau cymunedol fel bod trigolion yn teimlo perchnogaeth dros ffynonnellau a ddim yn eu gweld fel rhywbeth o’r tu allan. 

Mae Reform yn gwrthwynebu ffermydd gwynt mawr ar y tir ac dweud eu bod yn erbyn diwydianoli cefn gwlad. 

Chawsom ni ddim ymateb gan y Ceidwadwyr. 

Mae proses gynllunio drylwyr ar gyfer pob cais fferm wynt, ôl y corff sy’n cynrychioli’r diwydiant, Renewable UK Cymru, sy’n dweud bod yr angen am ynni gwyrdd yn fwy nag erioed. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.