Trychineb y Gleision: Disgwyl i gwest bara mwy na thri mis
Mae disgwyl i gwest i farwolaethau pedwar dyn fu farw yn nhrychineb pwll glo'r Gleision yng Nghwm Tawe ym mis Medi 2011 bara mwy na thri mis.
Cafodd adolygiad cyn cwest ei gynnal ddydd Gwener, bron i 15 mlynedd ers y drychineb.
Bu farw'r pedwar glöwr - Charles Breslin, David Powell, Phillip Hill a Garry Jenkins - yn y trychineb lofaol waethaf yng Nghymru ers dros 40 mlynedd pan lifodd dŵr i waith glo'r Gleision yng Nhilybebyll ger Pontardawe.
Roedd saith o ddynion yn gweithio y diwrnod hwnnw a thri yn unig a oroesodd.
Clywodd Neuadd y Ddinas Abertawe, lle cafodd y gwrandawiad ei gynnal ddydd Gwener, fod disgwyl i'r gwrandawiad terfynol gael ei gynnal rhwng Chwefror a Mehefin 2027.
Digwyddodd y drychineb ar ôl proses ffrwydro arferol, ac roedd teuluoedd a ffrindiau’r rhai a gafodd eu dal yn sownd yn aros am oriau wrth i ddeifwyr chwilio am oroeswyr yn y dŵr tywyll a chymylog.
Mewn achos llys yn 2014, fe gafwyd rheolwr y lofa ar y pryd, Malcolm Fyfield, yn ddieuog o ddynladdiad drwy esgeulustod, ac fe gafwyd perchnogion MNS Mining yn ddi-euog o ddynladdiad corfforaethol.
Er i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynnal ymchwiliad ar y pryd, mae'r teuluoedd yn dal i alw am gwest llawn.
Bydd adolygiad cyn cwest arall yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd cyn y gwrandawiad terfynol.
