Y Ddadl Fawr: Tu ôl i'r llen gyda Bethan Rhys Roberts
Y Ddadl Fawr: Tu ôl i'r llen gyda Bethan Rhys Roberts
Bydd arweinwyr a chynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol mwyaf yn mynd benben â’i gilydd yn Y Ddadl Fawr ar S4C nos Iau.
Bethan Rhys Roberts fydd arwain y drafodaeth yn fyw o’r Egin yng Nghaerfyrddin am 20.00, bythefnos yn unig cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Fe fydd y ddadl yn cael ei chynnal o flaen cynulleidfa o 60 o aelodau o’r cyhoedd.
Yn cynrychioli’r pleidiau fe fydd:
- Helen Jenner o Reform UK
- Jane Dodds o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru
- Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru
- Paul Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig
- Eluned Morgan o Lafur Cymru
- Tessa Marshall o’r Blaid Werdd
Fe fydd y Ddadl Fawr yn cael ei ffrydio’n fyw ar sianel YouTube Newyddion S4C.
Bydd cyfle hefyd ar ol y ddadl i glywed ymateb gohebwyr a sylwebwyr o’r Stafell Sbin.