Troseddau cyllyll: Gostyngiad yn y gogledd ond cynnydd mewn rhai ardaloedd
Roedd gostyngiad yn nifer y troseddau cyllyll yng ngogledd Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf, tra bod cynnydd yn ardal Heddlu Dyfed Powys.
Cafodd y ffigurau eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac maen nhw’n dangos gostyngiad o 15% mewn troseddau cyllyll yng ngogledd Cymru yn 2025.
Roedd 283 trosedd wedi'u cofnodi y llynedd, sef gostyngiad o 15.3% o'r flwyddyn flaenorol.
Yn ardal Heddlu Dyfed Powys roedd cynnydd o 10.2%, gyda 183 o droseddau wedi eu cofnodi yn 2025.
Fe welodd ardal Heddlu Gwent ostyngiad o 11.9% gyda 395 trosedd, tra bod cynnydd o 1.1% yn ne Cymru.
Roedd cynnydd mewn llofruddiaethau yn nhri o'r pedair ardal heddlu yng Nghymru y llynedd hefyd, gyda Gwent yr unig ardal oedd heb weld newid.
Roedd chwech o lofruddiaethau yn ardal Dyfed Powys, cynnydd o ddau achos o gymharu â 2024.
Roedd pedwar achos yng ngogledd Cymru yn 2025, sef un yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
De Cymru a welodd y cynnydd mwyaf, gyda chwech yn fwy o lofruddiaethau y llynedd, sef 22 i gyd.
Doedd dim newid o'r tri llofruddiaeth yng Ngwent yn y flwyddyn flaenorol.
Mae'r darlun ar draws y Deyrnas Unedig yn dangos gostyngiad o 21% mewn troseddau gyda chyllyll yn 2025.
Cafodd tua 172 o lofruddiaethau â chyllyll eu cofnodi y llynedd, sef yr isaf ers i ddata gael eu cofnodi gyntaf yn 2010.
Dywedodd gweinidog trosedd a heddlu Llywodraeth y DU, Sarah Jones, y byddan nhw'n parhau i weithio i ostwng nifer y troseddau cyllyll.
"Rydym yn gweithio i ostwng troseddau sydd yn niweidio cymunedau ac sydd eisoes heb gael eu cosbi," meddai.
"Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn a pheidio ag ymlacio tan fod pob cymuned yn gweld newid."
