Beth sydd angen i Wrecsam ei wneud er mwyn cyrraedd y gemau ail-gyfle?
Gyda dwy gêm dyngedfennol i fynd yn y Bencampwriaeth, beth sydd angen i Wrecsam ei wneud er mwyn cyrraedd y gemau ail-gyfle a chadw'r freuddwyd o gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn fyw?
Fe enillodd tîm Phil Parkinson yn erbyn Rhydychen oddi cartref nos Fawrth, gan olygu eu bod nhw wedi codi i'r chweched safle wedi i Hull fethu â churo Leicester.
Er eu bod nhw yn y chweched safle maen nhw ar yr un nifer o bwyntiau â Hull gyda gwahaniaeth goliau yn unig yn gwahanu'r ddau dîm.
Ddydd Sadwrn diwethaf, roedd y Dreigiau bedwar pwynt y tu ôl i Hull ar ôl colli dwy gêm yn olynol, ond mae canlyniadau diweddar Hull yn golygu mai Wrecsam sydd â'r fantais allweddol ar hyn o bryd.
Bydd Hull yn wynebu Charlton oddi cartref ddydd Sadwrn, ac fe fydd yn rhaid i Wrecsam ddisgwyl tan ddydd Sul ar gyfer eu gêm nesaf nhw yn erbyn Coventry, sef pencampwyr y Bencampwriaeth.
Bydd Phil Parkinson a'i dîm yn gobeithio y gallai llwyddiant Coventry i sicrhau dyrchafiad ac wythnos o ddathliadau effeithio ar berfformiad chwaraewyr Frank Lampard.
Mae Middlesrough, sydd yn y pumed safle, heb fuddugoliaeth mewn saith gêm a bellach dim ond tri phwynt ar y blaen, ond mae ganddyn nhw wahaniaeth goliau llawer gwell na Wrecsam a Hull.
Fe fydd Wrecsam yn wynebu Middlesbrough yng ngêm olaf y tymor ar y Cae Ras wythnos i ddydd Sadwrn, gyda Hull yn croesawu Norwich.
Pe bai Wrecsam yn sicrhau safle ail-gyfle, fe fyddai hyn yn golygu y byddan nhw yn chwarae yn erbyn y tîm sydd yn y pumed safle dros ddwy gêm, gyda'r enillwyr yn mynd yn eu blaenau i wynebu enillydd y rownd gyn-derfynol arall yn Wembley.