Colli bron i 300 o swyddi wedi i gwmni dodrefn fynd i'r wal
Mae bron i 300 o weithwyr wedi colli eu swyddi ar ôl i gwmni dodrefn o Sir y Fflint fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Cafodd gweinyddwyr o gwmni Interpath eu penodi ar gyfer cwmni Westbridge Furniture Limited, sydd wedi’i leoli yn Nhreffynnon, ym mis Mawrth.
Mae Interpath bellach wedi cadarnhau bod 297 o swyddi wedi’u colli.
Dywedodd y cwmni fod “masnachu gwan a cholli cwsmer allweddol” wedi cyfrannu at y penderfyniad.
Yn ôl gwefan y cwmni, roedd Westbridge yn cynhyrchu dodrefn ar gyfer cwmnïau fel Next, John Lewis a Sofology.
Mewn datganiad, dywedodd Chris Pole o Interpath, un o gyd-weinyddwr Westbridge Furniture Limited, nad oedd hi'n bosib i'r busnes i barhau i fasnachu oherwydd nad oeddynt wedi derbyn "unrhyw gynigion hyfyw."
“Mae tîm Westbridge wedi dangos proffesiynoldeb eithriadol wrth barhau i gynhyrchu tra’r oeddem yn archwilio opsiynau.
“Yn anffodus, rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i gau’r busnes. Rydym yn cydnabod bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol i’r staff, a hoffwn ddiolch o galon iddynt am eu hymrwymiad.”
Dywedodd y gweinyddwyr fod gwaith cynhyrchu ar y safle wedi dod i ben ar 2 Ebrill, gyda rhai elfennau o'r gwaith yn parhau wrth i’r broses ddirwyn i ben.
Ychwanegodd y gweinyddwyr fod cytundeb wedi’i sicrhau i werthu hawliau eiddo deallusol ('intellectual property') a hawliau dylunio Westbridge i’r cwmni soffas a dodrefn Whitemeadow.