Pump yn yr ysbyty yn dilyn 'digwyddiad cemegol' mewn ffatri ar Ynys Môn
Mae pump o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn 'digwyddiad cemegol' mewn ffatri ar Ynys Môn fore Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad mewn ffatri yn Llangefni.
Y gred yw bod amonia wedi gollwng o ffatri brosesu cig cwmni 2 Sisters yn y dref.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cawsom ein galw am 9:14 y bore yma [fore Llun] i Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol, Llangefni i adroddiadau o bobl oedd angen triniaeth feddygol ar ôl dod i gyswllt â mwg neu gemegyn niweidiol.
"Gwnaethom fynychu'r lleoliad gyda dau gerbyd ymateb brys a thri ambiwlans argyfwng.
"Cafodd pedwar o gleifion eu trin ar y safle ac fe gafodd pump arall eu cludo i Ysbyty Gwynedd am driniaeth bellach".
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru: "Cafodd dau griw o Gaergybi, yr Uned Diogelu’r Amgylchedd o Gaergybi a chriw o Fangor eu galw i ffatri prosesu cig ar Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol, Llangefni am 10.07 o’r gloch y bore yma i ddelio â amheuaeth o ollyngiad Amonia.
"Cafodd naw anafedig eu trin yn y fan a’r lle ac mae pump bellach wedi cael eu cludo i’r ysbyty gan gydweithwyr o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gael triniaeth bellach".