Teyrnged teulu i fab 'cariadus' a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion
Mae teulu dyn 19 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion ym mis Mawrth wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Lee Barber o Aberaeron yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A482 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chiliau Aeron ar 24 Mawrth.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod colli eu mab wedi eu "dinistrio" ac wedi "effeithio’n ddwfn ar y gymuned gyfan".
"Roedd Lee yn fab cariadus a oedd yn byw bywyd i’r eithaf. Bydd yn cael ei gofio am ei garedigrwydd, ei gryfder, a’i agwedd gadarnhaol," meddai ei deulu.
"Roedd ganddo ffordd o ddod â phobl ynghyd a gwnaeth effaith barhaol ar bawb oedd yn ei adnabod.
"Rydym am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn y gymuned leol a thu hwnt am y gefnogaeth aruthrol yr ydym wedi’i derbyn.
"Mae’r negeseuon, y straeon, yr atgofion, a’r lluniau sydd wedi'u rhannu gyda ni yn golygu mwy nag y gall geiriau ei ddweud.
"Bydd ein bachgen Lee yn byw am byth yn ein calonnau a’n meddyliau."
Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddyn nhw alaru.