Price yn cyrraedd y ffigyrau dwbl ar ôl ennill yn Ewrop eto
Mae Gerwyn Price wedi dod yr ail chwaraewr yn unig i gyrraedd y ffigyrau dwbl yn y Gylchdaith Ewropeaidd ar ôl ennill ei 10fed teitl yn yr Almaen.
Fe drechodd Price Ross Smith 8-6 yn y ffeinal, gan ddweud ar ôl y gêm ei fod yn gobeithio y bydd y fuddugoliaeth yma yn "roi bach o hyder" iddo.
"Mi o'n i yn stryglo i orffen ac ennill. Fe wnes i golli yn y ffeinal yn y gylchdaith Ewropeaidd olaf y gwnes i chwarae ynddi. Dwi'n ddiolchgar y gwnes i ennill y tro yma a gobeithio neith o roi bach o hyder i fi wrth fynd ymlaen."
Fe gurodd Price Dave Chisnall, Chris Dobey, Martin Schindler a Wessel Nijman er mwyn cyrraedd y ffeinal.
Yr unig chwaraewr arall i gyrraedd y ffigyrau dwbl mewn Cylchdaith Ewropeaidd ydy Michael van Gerwen.