Douglas Alexander: 'Mae Starmer am oroesi ffrae Mandelson'

Keir Starmer

Bydd Keir Starmer yn goroesi'r ffrae wleidyddol sydd wedi codi ynghylch caniatáu Peter Mandelson i rôl flaenllaw yn Llywodraeth y DU.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC mae Ysgrifennydd Gwladol yr Alban wedi dweud nad yw hi'n "wir" i ddweud bod Starmer yn dweud celwydd am yr hyn yr oedd yn ei wybod pan gafodd Mandelson y swydd.

Daw honiadau fod Starmer yn ymwybodol o amheuon am orffennol Mandelson gan wleidyddion yn cynnwys arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch.

Yn ôl Douglas Alexander mae yna "wersi i'w dysgu" o'r broses o benodi Mandelson, ond fe all Starmer "oroesi'r sgandal wleidyddol" meddai.

Bydd y Prif Weinidog yn wynebu ASau yn San Steffan ddydd Llun am y tro cyntaf ers i'r stori ddiweddaraf ymddangos ym mhapur newydd y Guardian.

Fe wnaeth y Guardian ddatgelu wythnos diwethaf fod yr Arglwydd Mandelson wedi cael ei wrthod yn y gwiriadau diogelwch ar gyfer rôl Llysgennad y DU i’r Unol Daleithiau. Ond fe benderfynodd y Swyddfa Dramor beidio derbyn y casgliad yma.

Mae Downing Street wedi dweud nad oedd Starmer yn gwybod am ganlyniad y system fetio a'i fod yn "gandryll" am hyn. 

Fe ddywedodd ei fod yn "syfrdanol" bod gweision sifil ddim wedi dweud wrtho fod Mandelson wedi methu'r system fetio.

Cafodd Olly Robbins, uwch was sifil yn y Swyddfa Dramor ei ddi-swyddo ar ôl i'r stori ddod i'r amlwg.

Mae arweinwyr y gwrthbleidiau wedi dweud bod angen i'r Prif Weinidog ymddiswyddo. Mae Badenoch wedi dweud ei bod hi'n "ystyried bob opsiwn seneddol" er mwyn ei ddisodli.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.