Gwario dros £15,000 ar glirio cerrig a thywod o geg Harbwr Aberaeron
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C wedi datgelu fod Cyngor Ceredigion wedi gwario dros £15,000 ar glirio cerrig a thywod o geg harbwr Aberaeron.
Ar ôl cwblhau cynllun gwerth £35.6 miliwn, mynegodd nifer o bobl leol bryderon am domen o gerrig a thywod a oedd wedi ymddangos yng ngheg yr harbwr.
Daw'r £15,211.78 sydd wedi ei wario o gyllideb refeniw cynnal a chadw’r cyngor wrth iddyn nhw geisio cywiro'r broblem.
Dyna'r gost o garthu ceg yr harbwr unwaith yn unig, a hynny ym mis Chwefror eleni, meddai'r cyngor.
"Nid yw’n bosibl dweud ar hyn o bryd a fydd angen rhagor o waith yn y dyfodol, ac felly pa mor aml y byddai angen gwneud gwaith o’r fath, er bod y Cyngor yn gweithio’n weithredol gyda’i ymgynghorwyr dylunio i ddatblygu ateb cynaliadwy hirdymor," meddai llefarydd ar ran yr awdurdod.
Roedd y cynllun oedd yn werth £31.6m yn wreiddiol wedi ei ariannu 85% gan Lywodraeth Cymru (£26.85m) ac roedd 15% yn dod fel gwariant cyfalaf Cyngor Sir Ceredigion (£4.74m).
Wedi cwblhau cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron ym mis Medi 2025, fe ddatgelodd Newyddion S4C ym mis Tachwedd fod disgwyl gorwariant o £4m ar y cynllun.
Dywedodd Cyngor Ceredigion bryd hynny eu bod nhw'n trafod â phartneriaid cyllido posibl, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i fynd i’r afael â’r gorwariant.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bryd hynny mai Cyngor Sir Ceredigion oedd yn gyfrifol am gynllun rheoli risg arfordirol Aberaeron unwaith yr oedd y cyllid wedi ei ddarparu.
Yna ym mis Ionawr eleni daeth i’r amlwg fod tywod a cherrig mân yn cronni yng ngheg yr harbwr.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Newyddion S4C a ddylai Llywodraeth Cymru gyfrannu at gost y gwaith o waredu'r tywod a'r cerrig man o'r harbwr hefyd, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r Cyngor yn ystyried ei safbwynt ar y mater hwn.
"Er dylid nodi bod y gwaith adeiladu ei hun wedi’i ddosbarthu fel gwariant cyfalaf, tra bod cynnal a chadw parhaus yn wariant refeniw."
'Mesur dros dro'
Mae'r cyngor yn cynnal gwaith pellach ar yr harbwr ar hyn o bryd, gan ddraenio y fynedfa rhwng 16 Ebrill a 23 Ebrill.
Yn ystod y cyfnod hwn, maen nhw hefyd yn cwblhau gwaith dros dro ar y grwyn carreg (rock groyne) gerllaw Pier y De, er mwyn helpu i leihau faint o raean sy'n cronni ac i gynnal mynediad diogel i’r harbwr.
"Mae’r gwaith hwn yn fesur dros dro wrth i ni barhau i ddatblygu ateb hirdymor i’r broblem o gerrig mân yn cronni," meddai'r cyngor.
"Rydym yn deall bod pryderon ynghylch y deunydd sy’n parhau i gronni wrth fynedfa’r harbwr. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n hymgynghorwyr dylunio i ddatblygu ateb cynaliadwy hirdymor, a byddwn yn ymgynghori â CNC trwy gydol y broses.
"Ein prif flaenoriaeth yw cadw mynediad i’r harbwr yn agored ac yn ddiogel i bawb sy’n ei ddefnyddio."
