Heddlu'n ymchwilio wedi i ymosodiad honedig arwain at ohirio gêm bêl-droed
Mae'r heddlu yn ymchwilio i adroddiadau am ymosodiad honedig mewn gêm bêl-droed yn y de ddydd Sadwrn.
Cafodd y gêm rhwng Port Talbot a Bridgend Street yn Uwch Gynghrair De Cymru ei gohirio ar ôl yr hanner cyntaf.
2-2 oedd y sgôr rhwng y clybiau, sy'n eistedd yn y trydydd a'r pedwerydd safle, pan gafodd y gêm ei gohirio.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "ymchwilio i adroddiadau o ymosodiad yn ystod y gêm".
Ychwanegodd y llu nad oedd neb wedi cael ei arestio hyd yma a bod ymholiadau'n parhau.
Mewn datganiad ar blatfform X nos Sadwrn, dywedodd Clwb Pêl-droed Port Talbot: "Yn anffodus mae ein gêm yn erbyn Bridgend Street wedi'i gohirio oherwydd ymosodiad 'honedig' ar ein rheolwr a'n chwaraewyr."
Dywedodd Bridgend Street na fyddan nhw'n rhoi sylw ar y mater er mwyn "parchu'r gynghrair a'r dyfarnwr".
Dywedodd Uwch Gynghrair De Cymru bod unrhyw ymholiadau am gamymddwyn yn ystod gemau yn fater i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am ymateb.
