'Ni fydd Culfor Hormuz yn parhau ar agor' os ydy blocâd Trump yn parhau
Mae Iran wedi dweud na fydd Culfor Hormuz yn parhau ar agor os yw blocâd Donald Trump ar borthladdoedd y wlad yn parhau.
Dywedodd Bagher Ghalibaf, llefarydd ar ran Llywodraeth Iran a’r dyn sydd wedi arwain y sgyrsiau gyda America ar ran y wlad, bod Trump wedi gwneud honiadau ffug am ennill y rhyfel.
“Wnaethon nhw ddim ennill y rhyfel, ac yn sicr ni fyddan nhw'n cyrraedd unman mewn trafodaethau chwaith gyda'r celwyddau hyn,” meddai ar blatfform X.
Ychwanegodd na fyddai Culfor Hormuz "yn parhau ar agor” os yw “blocâd [America] yn parhau".
Daw ei sylwadau ar ôl datganiad ar X gan Ysgrifennydd Tramor Iran, Abbas Araghchi, lle dywedodd bod modd i longau masnach deithio drwy Gulfor Hormuz “am weddill y cadoediad".
Mewn neges ar Truth Social fore Sadwrn, dywedodd Donald Trump bod Culfor Hormuz “ar agor ar gyfer busnes” ond yn pwysleisio bod blocâd America yn dal mewn grym yn y rhanbarth.
“Bydd y blocâd yn parhau yn llwyr ac yn llawn gan ei fod yn ymwneud ag Iran yn unig, ac fe fydd yn parhau tan fod y trafodaethau gydag Iran wedi eu cwblhau 100%," meddai.
Mae data yn dangos fod llongau yn teithio trwy Gulfor Hormuz fore Sadwrn.
Yn ôl gwefan MarineTraffic mae llongau gan gynnwys rhai sydd wedi'u dylunio i gludo olew yn teithio yno.
Mae Trump wedi dweud y bydd trafodaethau rhwng Iran ac America yn parhau dros y penwythnos.
Roedd y ddwy wlad wedi cytuno ar gadoediad am bythefnos ar 8 Ebrill.
Ers hynny mae'r gwledydd wedi bod yn cynnal trafodaethau yn Islamabad, ac mae Trump yn honni bod llawer o'r pwyntiau trafod "wedi'u cytuno" erbyn hyn.
"Dylai'r broses hon dod i ben yn gyflym iawn gan fod rhan fwyaf o'r pwyntiau trafod eisoes wedi'u cytuno," meddai.
Mae disgwyl i'r cadoediad rhwng Iran ac America ddod i ben ar 22 Ebrill.
