Y Super Furry Animals i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol?
Mae dyfalu y bydd y Super Furry Animals yn ymddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, wedi i drefnwyr yr ŵyl gyhoeddi llun o danc glas enwog y band ar y cyfryngau cymdeithasol a ddaeth i'r maes yn Eisteddfod Llandeilo yn 1996.
Bydd Eisteddfod y Garreg Las yn cael ei chynnal ar 1-8 Awst eleni, ac mae neges yr Eisteddfod yn dangos llun o'r tanc gyda'r neges 'A oes heddwch?' arno.
Mae sibrydion ers tro y bydd y band yn ymddangos yn y Brifwyl eleni, ac maen nhw am fod ar daith yn ystod y flwyddyn ar hyd a lled y DU ac Iwerddon.
Ym mis Hydref y llynedd, fe wnaeth y Super Furries gyhoeddi eu bod am ailffurfio ar gyfer eu cyngherddau cyntaf ers bron i ddegawd.
Fel rhan o’r daith Supacabra, roedd y band wedi trefnu chwe pherfformiad yn wreiddiol - yn Nulyn, Glasgow, Llandudno, Manceinion, Caerdydd a Llundain - ond mae rhagor o nosweithiau wedi eu cyhoeddi bellach, gan gynnwys cyngherddau yn Llandudno a Llangollen.
Ymhlith yr artistiaid fydd yn eu cefnogi ar y daith fydd Getdown Services, Honeyglaze a'r band Melin Melyn o Gaerdydd.
Fe gafodd y band ei ffurfio yng Nghaerdydd ym 1993, gyda Gruff Rhys, Huw Bunford, Guto Pryce, Cian Ciaran a Dafydd Ieuan yn aelodau.
Fe gyhoeddodd y band eu bod yn cymryd seibiant yn 2010, cyn aduno yn 2015.
Fe wnaeth y band chwarae gyda'i gilydd am y tro olaf yng Nghaerdydd yn 2016.
