Sophie Ingle i ennill cap rhif 150 dros Gymru yn erbyn Albania
Sophie Ingle i ennill cap rhif 150 dros Gymru yn erbyn Albania
Bydd disgwyl i Sophie Ingle ennill ei 150fed cap dros Gymru yn erbyn Albania nos Sadwrn.
Fe wnaeth rheolwr Cymru, Rhian Wilkinson gadarnhau ddydd Gwener y bydd Ingle yn chwarae ei 150fed gêm dros ei gwlad - yr ail chwaraewr yn unig i gyflawni hynny ar ôl Jess Fishlock.
Wrth siarad cyn y gêm dywedodd Ingle mai anrhydedd mwyaf ei gyrfa oedd gwisgo crys Cymru.
"Dwi'n gyffrous, mae'n gêm arall i mi ond yn un dwi mor falch ohoni," meddai.
"Chwarae dros Gymru yw'r peth gorau dwi wedi a siŵr o fod mynd i wneud yn ystod fy ngyrfa.
"Wrth gwrs mae ennill teitlau a thlysau ar lefel clwb yn wych, ond does dim teimlad gwell na wisgo crys Cymru a chwarae gyda'r grŵp yma o ferched dros y 15 mlynedd diwethaf."
Wrth glywed awgrym cyn-ymosodwr Cymru, Helen Ward y gallai Ingle ennill 200 cap dros ei wlad, roedd chwaraewr canol cae Cymru wedi chwerthin cyn ychwanegu, "fyddai'n 40 erbyn hynny."
Enillodd Cymru o 4-0 yn erbyn Albania ar y Stok Cae Ras yn Wrecsam nos Fawrth.
Maen nhw yn ail yn eu grŵp rhagbrofol tu ôl i Tsiecia, er bod y ddwy wlad ar yr un nifer o bwyntiau a gwahaniaeth goliau.
Mared Griffiths o Drawsfynydd oedd seren y gêm nos Fawrth, wrth iddi greu dau o goliau Cymru yn yr ornest.
Roedd Hannah Cain wedi sgorio dwy hefyd, gan olygu ei bod wedi sgorio chwech o goliau mewn pedwar ymddangosiad yn yr ymgyrch hon.
Er i Gymru sgorio pedwar o goliau yn erbyn Albania, mae Sophie Ingle yn dweud bod angen i'r garfan gwneud y mwyaf o'u cyfleoedd o flaen y gôl.
"Roeddem yn dominyddu'r bel ac roedd y chwarae yng nghanol cae a'r ymosod yn dda iawn," meddai.
"Ond fel roedd Rhian wedi cyffwrdd arni, mae angen i ni fod yn well o flaen gol achos yn erbyn timoedd gwell bydd llai o gyfleoedd i sgorio.
"Os ydyn ni'n gallu sgorio'r cyfleoedd hynny ac adeiladu hyder oddi ar hynny, byddwn mewn lle da pan yn chwarae yn erbyn timoedd gwell."
Bydd y gic gyntaf rhwng Albania a Chymru am 17.00 nos Sadwrn, gydag uchafbwyntiau estynedig ar S4C am 22.00.
