Cipolwg ar benwythnos ola'r tymor cyffredin yn Cymru Premier JD
Torrodd y newyddion da nos Iau fod pob un o glybiau presennol y gynghrair wedi derbyn y trwydded ddomestig, yn ogystal â’r clybiau fydd yn esgyn i’r Cymru Premier JD.
Mae hynny’n golygu bod Llandudno, Airbus UK, Treffynnon, Trefelin a Cambrian wedi sicrhau eu lle’n y Cymru Premier JD ar gyfer y tymor nesaf, ac mi fydd unai Rhydaman neu Caerau Trelai yn cymeryd lle Y Bala neu’r Fflint ar y penwythnos olaf.
Mae’n benwythnos ola’r tymor cyffredin yn y Cymru Premier JD, ac mae rhywbeth yn y fantol ym mhob un o’r chwe gêm olaf.
Yn y Chwech Uchaf, mae’r clybiau’n ceisio gorffen mor uchel â phosib er mwyn sicrhau gemau cartref yn y gemau ail gyfle.
I lawr yn y Chwech Isaf, mae Hwlffordd a Llansawel yn cystadlu am le yn y gemau ail gyfle tra bod Y Fflint a’r Bala yn brwydro i osgoi’r cwymp.
Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu pumed pencampwriaeth yn olynol, a Cei Connah wedi hawlio’r ail safle, a bydd y ddau glwb yn cynrychioli Cymru yn Ewrop dros yr haf.
Y penwythnos diwethaf fe lwyddodd Caernarfon i ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes gan gipio’r trydydd tocyn i Ewrop, a bydd y pedwerydd safle Ewropeaidd yn mynd i enillwyr y gemau ail gyfle.
CHWECH UCHAF
Caernarfon (5ed) v Pen-y-bont (6ed) | Dydd Sadwrn – 17:15
Mae Caernarfon wedi creu hanes y penwythnos diwethaf drwy godi Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed yn dilyn buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Y Fflint yn y rownd derfynol.
Roedd yr ornest ar ben wedi 18 munud yn Rodney Parade, Casnewydd brynhawn Sul wedi i’r Cofis sgorio tair gôl gynnar yn erbyn y Sidanwyr.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Caernarfon wedi sicrhau eu lle’n Ewrop ar gyfer y tymor nesaf, ac felly ni fydd y Caneris yn cystadlu yn y gemau ail gyfle wythnos nesaf.
Ar ôl dechrau’r ymgyrch yn gryf, mae tymor Pen-y-bont wedi mynd ar chwâl ers mis Tachwedd. Dechreuodd y dymchwel ar Ffordd Llanelian ym mis Tachwedd gyda’r Gleision yn colli o 5-4 yn erbyn Bae Colwyn, ac ers hynny dyw Pen-y-bont m’ond wedi ennill unwaith mewn 15 o gemau (vs Llanelli).
Dyw Pen-y-bont heb guro clwb o’r Chwech Uchaf ers mis Medi (vs Bae Colwyn), a dyw tîm Rhys Griffiths heb sgorio mwy nac unwaith mewn gêm ers y golled o 5-4 yn erbyn y Gwylanod ym mis Tachwedd.
Mae’r record benben wedi bod yn hafal rhwng y timau yma’r tymor hwn, gyda Pen-y-bont yn ennill ym mis Medi, Caernarfon yn ennill ym mis Hydref, a’r ornest ddiwethaf yn gorffen yn ddi-sgôr ym mis Ionawr.
Bydd Caernarfon yn gobeithio am ddiweddglo cryf i’w tymor, ond bydd Pen-y-bont yn benderfynol o gael canlyniad cadarnhaol cyn y gemau ail gyfle y penwythnos nesaf.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏✅❌❌❌✅
Pen-y-bont: ❌❌❌➖❌
Cei Connah (2il) v Bae Colwyn (4ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15
Ar ôl wythnos ansicr, bydd dilynwyr Bae Colwyn yn teimlo rhyddhad enfawr o glywed fod y clwb wedi sicrhau trwydded ddomestig a thrwydded UEFA.
Mae’r apêl llwyddiannus yn golygu y bydd Bae Colwyn yn cael aros yn y Cymru Premier JD y tymor nesaf, ac yn cael cystadlu yn y gemau ail gyfle wythnos nesaf am le’n Ewrop.
Mae Cei Connah eisoes wedi cadarnhau eu lle’n Ewrop drwy sicrhau’r ail safle yn nhymor cyntaf John Disney wrth y llyw.
Mae’r Nomadiaid wedi chwarae’n gyson ar y llwyfan Ewropeaidd yn y degawd diwethaf, ond wedi tymor o seibiant ar ôl gorffen yn 8fed llynedd, bydd selogion Cei Connah yn paratoi am antur arall yn Ewrop eleni.
Cei Connah sydd wedi cael y gorau o bethau y tymor yma, yn ennill eu gêm gartref o 2-1 ym mis Rhagfyr, rhwng dwy gêm gyfartal ar Ffordd Llanelian.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ❌✅✅➖❌
Bae Colwyn: ͏❌✅✅➖❌
Y Barri (3ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 17:15
Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau pencampwriaeth y Cymru Premier JD am y 18fed tro yn eu hanes, ac am y pumed tymor yn olynol, a bydd cewri Croesoswallt yn gobeithio gorffen eu hymgyrch gyda buddugoliaeth cyn dechrau’r paratoadau am antur Ewropeaidd arall.
Mae Jordan Williams ymhell ar y blaen ar frig rhestr y prif sgorwyr gyda 26 o goliau cynghrair, ac mae’n debygol y bydd yr Esgid Aur yn cael ei ennill ganddo fo ddydd Sadwrn, gyda’r blaenwr hefyd yn siwr o fod yn un o’r enwau fydd yn cael ei ystyried ar gyfer gwobr ‘Chwaraewr y Tymor’.
Mae’r Faneg Aur eisoes wedi ei hawlio gan golwr y Seintiau, Nathan Shepperd gan i’r gŵr 25 oed gadw 15 llechen lân mewn 26 gêm gynghrair yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb.
Ras y creuwyr yw’r un fwyaf cyffrous o ran yr ystadegau gyda dau o chwaraewyr y Seintiau yn arwain y ffordd cyn y gemau olaf - Daniel Williams yw prif grêwr goliau’r gynghrair ar hyn o bryd (13), gyda Ryan Brobbel yn dynn ar ei sodlau (12), ond bydd Sion Bradley, Rhys Hughes a Harry Franklin (11) hefyd yn anelu i ddringo i’r copa.
Mae’r Barri wedi perfformio’n gadarn yn ddiweddar gan ennill chwech o’u wyth gêm ddiwethaf a chadw pum llechen lân.
Mae hi wedi bod yn dymor rhagorol i’r Dreigiau dan arweiniad Steve Jenkins gyda’r tîm yn cyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers pum mlynedd, a chodi Cwpan y Cynghrair am y tro cyntaf ers chwarter canrif.
Bydd y Seintiau’n ysu i dalu’r pwyth yn ôl yn dilyn y golled honno yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ym mis Chwefror, ond bydd Y Barri’n benderfynol o ddal gafael ar y 3ydd safle er mwyn sicrhau gemau cartref yn y gemau ail gyfle.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅❌✅➖✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅❌✅✅
CHWECH ISAF
Hwlffordd (7fed) v Llanelli (12fed) | Dydd Sadwrn – 17:15
Mae Hwlffordd mewn safle gwych cyn gêm ola’r tymor, driphwynt yn glir yn y ras am y 7fed safle, ac felly byddai pwynt yn erbyn Llanelli yn ddigon i sicrhau eu lle’n y gemau ail gyfle.
Mae’r Adar Gleision wedi ennill y gemau ail gyfle ddwywaith yn y dair blynedd diwethaf, a bydd Tony Pennock yn gobeithio y gall y profiad hwnnw arwain Hwlffordd i fod y clwb cyntaf erioed i ennill y gemau ail gyfle deirgwaith.
Mae Hwlffordd wedi ennill saith o’u naw gêm gynghrair ers yr hollt, gan gadw saith llechen lân, ac felly bydd yr hyder a’r momentwm gan garfan y gorllewin os awn nhw ymlaen i’r gemau ail gyfle.
Ar ôl tymor digon heriol, bydd Llanelli yn awyddus am berfformiad calonogol yn eu gêm olaf yn y gynghrair cyn syrthio yn ôl i Gynghrair y De.
Dyw Llanelli m’ond wedi ennill pum gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor yma, ond fe ddaeth dwy o’r buddugoliaethau rheiny yn erbyn Hwlffordd, felly fydd hi ddim yn hawdd i’r Adar Gleision.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌✅❌✅✅
Llanelli: ➖❌❌✅❌
Met Caerdydd (9fed) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Ar ôl dwy flynedd yn ôl yn yr uwch gynghrair, mae’r Fflint mewn perygl o lithro allan o’r brif haen ar benwythnos ola’r tymor cyffredin.
Fe wnaeth Y Fflint yn arbennig i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 72 mlynedd, ond roedd y Cofis yn rhy gryf i’r Sidanwyr ddydd Sul diwethaf, ac roedd hi’n brynhawn siomedig i garfan Lee Fowler, yn colli o 3-0 yn Rodney Parade.
Wythnos yn ddiweddarach, ac fe all y siom barhau gan y byddai buddugoliaeth i’r Bala yn erbyn Llansawel yn ddigon i yrru’r Fflint i lawr os na wnawn nhw lwyddo i drechu Met Caerdydd.
Mae’r Fflint ddau bwynt uwchben Y Bala, ac mae eu gwahaniaeth goliau’n hafal, felly byddai triphwynt i’r Fflint yn cadarnhau eu lle’n y gynghrair, ond byddai unrhyw ganlyniad arall yn gadael y cyfan yn nwylo’r Bala.
Mae’r record benben wedi bod yn hafal rhwng y timau’r tymor hwn gyda’r Fflint yn ennill o 4-2 ym mis Medi, Met Caerdydd yn ennill o 4-1 ym mis Hydref, ac yna gêm gyfartal 1-1 ar Gae y Castell ym mis Chwefror.
Dyw’r Fflint heb golli dim un o’u wyth gêm oddi cartref ddiwethaf yn y gynghrair, ers eu colled o 4-1 ar Gampws Cyncoed ym mis Hydref (ennill 4, cyfartal 4).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌❌✅✅❌
Y Fflint: ✅➖➖❌❌
Y Bala (11eg) v Llansawel (8fed) | Dydd Sadwrn – 17:15
Ar ôl colli dim ond unwaith yn eu pum gêm ddiwethaf, mae’r Bala wedi sicrhau bod y ras i osgoi’r cwymp yn mynd yr holl ffordd i’r penwythnos olaf.
Gyda pedair gêm yn weddill, roedd Y Fflint saith pwynt yn glir o’r Bala yn yr 11eg safle, ond bellach dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ac o’r clybiau presennol, Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb arall sydd wedi aros yn y gynghrair yn ddi-dor ers tymor cynta’r Bala yn 2009/10.
Yn ystod eu cyfnod yn yr uwch gynghrair mae’r Bala wedi ennill Cwpan Cymru (2016/17) a Chwpan Nathaniel MG (2022/23), yn ogystal â sicrhau eu lle’n Ewrop ar naw achlysur.
Ond ar ôl toriadau i’r gyllideb a newidiadau mawr dros yr haf, yn cynnwys colli’r rheolwr profiadol Colin Caton, mae hi wedi bod yn dymor anodd i’r rheolwr newydd, Steve Fisher, a bydd yn rhaid i’r Bala guro Llansawel ddydd Sadwrn os am unrhyw obaith o aros i fyny.
Bydd Llansawel ddim yn barod i ildio chwaith, gan eu bod hwythau’n cystadlu am le yn y gemau ail gyfle, a pe bae Hwlffordd yn baglu’n erbyn Llanelli, yna byddai tîm Andy Dyer yn codi i’r 7fed safle.
Dyw Llansawel heb golli dim un o’u tair gornest yn erbyn Y Bala’r tymor hwn, gyda’r gêm gynta’n gorffen yn gyfartal 2-2 ym mis Medi cyn i’r Cochion guro Hogiau’r Llyn ddwywaith ar yr Hen Heol (2-0 a 2-1).
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖➖✅❌✅
Llansawel: ͏✅✅➖❌✅
