Chwe Gwlad: Cymru'n ‘credu mwy yn eu hunain’ eleni

Chwe Gwlad: Cymru'n ‘credu mwy yn eu hunain’ eleni

Er iddyn nhw golli eu gêm agoriadol yn y Chwe Gwlad eleni, mae bachwr Cymru Kelsey Jones yn dweud bod y tîm yn datblygu i fod "yn dîm llwyddiannus".

Gyda dwy yn ennill eu capiau cyntaf, fe frwydrodd y Cymry am 89 munud yn erbyn yr Alban yn Stadiwm Principality cyn colli yn y pen draw o 19-24.

Ffrainc fydd yr ymwelwyr y penwythnos hwn wrth i Gymru eu croesawu drws nesaf i Barc yr Arfau.

Ar ôl chwalu’r Eidal o 40-7 ddydd Sadwrn diwethaf, bydd yr ymwelwyr yn teimlo’n hyderus wrth baratoi i wynebu’r tîm a orffennodd ar waelod y tabl y llynedd.

Er gwaethaf yr her sy’n eu hwynebu, mae Kelsey Jones, un o hen bennau carfan gymharol di-brofiad Sean Lynn, yn dweud bod y tîm ar y trywydd cywir.

Image
Sean Lynn
Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

“Dwi’n credu bydd yr ymgyrch yma yn ein datblygu i fod yn dîm llwyddiannus,” meddai Jones, sydd â 53 o gapiau dros ei gwlad.

Mae’r agosrwydd yn well na mae wedi bod ers tro, a ro’n i’n teimlo’n fwy hyderus mewn crys Cymru y penwythnos diwethaf na rwyf wedi ers i ni ennill tair gêm yn 2023.

“Rydym yn cystadlu’n well ac yn perfformio’n well, ac mae hynny’n glod i’r merched sydd wedi dod i mewn. Mae rhywbeth yn teimlo’n wahanol ac rwy’n credu mai’r gred honno yw hi.

“Rwy’n gyffrous i weld ble gallwn ni fynd. Rydym yn underdog yn y gystadleuaeth yma, a does neb yn gwybod beth i’w ddisgwyl gennym ni.”

Fe sgoriodd Jones ei phumed cais rhyngwladol yn y golled yn erbyn Yr Alban, ac mae hi’n credu y gallai Cymru barhau i gystadlu yn erbyn y cenhedloedd eraill eleni.

Ychwanegodd: “Does gennym ni ddim byd i’w golli wrth fynd i mewn i’r gemau hyn ac mae’r ymateb i’r gêm yn yr Alban wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“O’i gymharu â lle’r oeddem ni y llynedd, a’r camau ymlaen rydym ni wedi’u gwneud, roedd y perfformiad yn dda.

“Mae hynny’n gyffrous i ni ac rydym ni’n dîm newydd, gyda hyfforddwyr newydd y tu ôl i ni – mae ein hymosodiad a’n hamddiffyn yn newydd, mewn gwirionedd mae popeth yn newydd.”

'Cam sylweddol'

Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Fe wnaethon ni gymryd cam sylweddol ymlaen o safbwynt ein perfformiad fel grŵp o chwaraewyr, hyfforddwyr a staff yn erbyn Yr Alban, ac roedd tystiolaeth glir o’r hyn ry’n ni wedi dechrau ei adeiladu i’w gweld y penwythnos diwethaf.

“Mae Ffrainc yn un o dimau gorau’r byd ac ry’n ni’n gwybod yn iawn y byddan nhw’n cynnig her enfawr i ni, ond perfformio hyd eitha’n gallu a chymryd cam arall ymlaen yw’r nod brynhawn Sadwrn. 

“Bydd angen i ni ddangos yr un dewrder ac agwedd ddi-ildio oedd mor amlwg yn erbyn yr Albanwyr - a bydd angen i ni ymdrechu i’r eithaf hyd at y chwiban olaf unwaith eto - yn enwedig yn erbyn Ffrainc.”

Mae Lynn wedi gwneud dau newid i’r tîm fydd yn wynebu Ffrainc, gyda’r mewnwr Seren Lockwood a’r asgellwr Jasmine Joyce yn cael eu cynnwys yn y 15 i ddechrau’r gêm.

Bydd y gêm yn cychwyn am 15.35, gydag uchafbwyntiau yn cael eu dangos ar S4C am 21.00.

Prif Lun: Kelsey Jones yn chwarae yn erbyn yr Alban (Asiantaeth Huw Evans)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.