Penwythnos arbennig i glwb rygbi i siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd
Mae'n benwythnos arbennig i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd (CRCC) wrth i dimau dynion a menywod y clwb chwarae yn Stadiwm Principality.
Eleni fydd y tro cyntaf i'r ddau glwb chwarae yn y stadiwm ar yr un penwythnos wrth i'r dynion chwarae yn rownd derfynol Cwpan Adran 2 tra bod y menywod yn chwarae yn rownd derfynol y Plât.
Blaendulais fydd gwrthwynebwyr tîm y menywod ddydd Sadwrn, ac mae CRCC yn chwilio am fuddugoliaeth eleni wedi iddyn nhw golli y llynedd.
Mae menywod CRCC wedi cyrraedd y rownd derfynol pob blwyddyn ers 2023, ac mae'r prif hyfforddwr Nia Jones yn dweud bod y garfan yn edrych ymlaen i gamu ar y cae unwaith eto.
"Ma’r pedwerydd flwyddyn i ni fel tîm menywod cyrraedd y ffeinal, ma' pawb mor excited a nerfus," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ni’n chwarae Blaendulais a wnaethon ni chwarae nhw blwyddyn dwetha' 'fyd, felly ma' pawb ishe ennill y tro ‘ma.
"Mae’n fraint cael chwarae yn y Principality, a ma’ pawb yn gweithio mor galed i cael y cyfle ‘na a ma’r ffaith bod yr Undeb yn rhoi’r cyfle 'na i ni, mae’n brilliant.
"Mae’n meddwl popeth a mae’n llwyfan arbennig i ni ddangos be’ ni’n neud fel clwb cymuned."
Eleni mae tîm menywod CRCC yn dathlu eu dengmlwyddiant.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae twf wedi bod yn nifer y merched sydd yn chwarae rygbi, sydd wedi golygu bod gan CRCC dimau merched iau.
Ar hyn o bryd mae tua 6,500 o fenywod a merched yn chwarae rygbi yng Nghymru, yn ôl ffigyrau gan Undeb Rygbi Cymru.
Nod yr Undeb yw gweld 10,000 o chwaraewyr benywaidd yn chwarae erbyn 2029.
Yn 2024 roedd 2,000 o ferched rhwng chwech ac 18 oed oedd yn "newydd i rygbi" wedi dechrau chwarae.
O lond llaw o ferched yn chwarae yn 2016 i sefydlu sawl tîm ieuenctid, mae'n "ardderchog" gweld tyfiant y clwb dros y 10 mlynedd diwethaf, meddai Nia.
"Mae wedi bod yn siwrne ardderchog, o ddechrau fel criw o ferched yn dod at ein gilydd ac o gefn hwnna roedd y tîm wedi dod at ein gilydd i chwarae gemau cyn chwarae mewn cynghrair.
"Ac ers hynny ni wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ni wedi mynd i’r Uwch Gynghrair.
"Mae’n ardderchog gweld faint ma’r clwb wedi tyfu yn y 10 mlynedd ‘na.
"Mae gweld mwy o exposure i tîm menywod Cymru wedi ffiltro lawr i ni fel clwb, ac mae chwarae trwy’r Gymraeg yn rili bwysig ac mae nifer y timau sydd gyda ni yn destun i hynny."
I dîm dynion CRCC, mae'r tymor presennol wedi bod yn un i'w gofio wrth i'r clwb sicrhau dyrchafiad i Adran 1 am y tro cyntaf yn eu hanes.
Cwins Aberafan fydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd derfynol ddydd Sul, ac fel CRCC maen nhw wedi colli un gêm yn unig y tymor yma.
Dyma'r tro cyntaf i'r dynion chwarae ar gae'r stadiwm cenedlaethol ers 2014, a'r gobaith yw coroni tymor da gyda buddugoliaeth ar y llwyfan mwyaf posib.
"Ni’n gyffrous iawn yn amlwg, dyma'r tro cyntaf i ni chwarae yn y Principality ers 2014, felly mae 12 mlynedd wedi pasio," meddai cadeirydd y clwb, Eurof James wrth Newyddion S4C.
"Mae’n hynod o gyffrous, mae ‘di bod yn dymor llwyddiannus iawn erbyn hyn, ni wedi ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf am y tro cyntaf.
"Felly ni’n mynd mewn i’r gêm gyda hwyliau ac ysbryd da gyda’r gwybodaeth bod gyda ni ddyrchafiad ac yn edrych ymlaen at chwarae chwip o gêm yn y stadiwm dydd Sul.
"Mae’n brofiad anhygoel chwarae yn y Principality pan ti’n meddwl am y peth, Mae dros 300 o glybiau ar draws Cymru felly i gyrraedd y brig mae’n wych o beth.
"Byddai ennill dydd Sul yn coroni’r tymor perffaith, fysa’n cwbl anhygoel, yn goron go iawn."
'Cymdeithasu yn y Gymraeg'
Mae timau CRCC yn bennaf yn cynnwys chwaraewyr ledled Cymru sydd wedi ymgartrefu yn y brifddinas ac yn siarad Cymraeg.
Dyna ethos y clwb yn ôl Eurof James, ac mae cymdeithasu yn yr iaith ar ôl gemau yr un mor bwysig â'r canlyniadau ar y cae, meddai.
"‘Da ni’n hynod o falch bod ni’n gallu dathlu ein Cymreictod ar y maes rygbi," dywedodd.
"Ma’ pawb yn deall ethos y clwb, a cyn belled bod pobl sy’n ymuno â’r clwb yn deall ein ethos ni a’n Cymreictod ni, ‘den ni ddim yn cau y drws ar neb.
"Mae’r cymdeithasu trwy’r Gymraeg a chanu sy’n digwydd ar ôl y gêm yr un mor bwysig â’r gêm ei hun wrth gwrs, ond eleni mae’r ddau beth wedi dod ynghyd."
