Modd atal ymosodiad Southport pe bai asiantaethau a rhieni wedi 'gweithredu ynghynt'
Modd atal ymosodiad Southport pe bai asiantaethau a rhieni wedi 'gweithredu ynghynt'
Gweithdy dawns i blant ar ddechrau gwyliau'r haf.
Digwyddiad gafodd ei droi'n gyflafan gan fachgen ifanc peryglus a ddylai fod wedi cael ei atal.
Dyna gasgliad adroddiad heddiw sydd wedi bod yn edrych ar y llofrudd Axel Rudakubana a'r rhai o'i gwmpas.
Yn cael ei adnabod yn yr adroddiad yn unig wrth ei briflythrennau AR, mae'r adroddiad annibynnol i'r Swyddfa Gartref yn deud yn blwmp ac yn blaen y dylai fod wedi cael ei stopio.
"I have no doubt that if appropriate procedures had been in place and sensible steps taken by agencies and AR's parents this dreadful event would not have happened.
"It could have been, and should have been, prevented."
Mi gafodd Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed ac Alice da Silva Aguiar, naw oed, eu trywanu i farwolaeth mewn ymsodiad cyflym a chiaidd yn y gweithdy dawns.
Mi gafodd wyth o ferched eraill a dau oedolyn eu hanafu.
Roedd yr hyn ddigwyddodd ar y stryd dawel yma yn Southport yn haf 2024 yn benllanw blynyddoedd o ymddygiad ddylai fod wedi arwain at weithredu gan ei rieni oedd yn gwybod am arfau oedd yn cael eu hanfon i'w cartref ac a fethodd ar fore'r ymosodiad a drosglwyddo gwybodaeth i'r awdurdodau ac asiantaethau oedd yn gwybod am obsesiwn y bachgen efo trais ond a benderfynodd nad oedd o'n risg i eraill.
Mae'r adroddiad heddiw'n tynnu sylw at sawl maes yn cynnwys methiannau difrifol ar ran y rhieni y math o ddeunydd treisgar roedd o'n ei wylio ar y we amharodrwydd asiantaethau gwahanol i gymryd cyfrifoldeb dros y risg roedd y llofrudd yn ei beri diffyg rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau a diffyg dealltwriaeth o gyflwr awtistig y llanc wrth geisio egluro ei ymddygiad.
"Pan ti'n gweld y llun yn gyfangwbl, beth oedd o'n neud ar-lein y cyllyll oedd o'n hel, y cefndir o droseddu treisgar bum mlynedd cyn y digwyddiad, roedd y wybodaeth ar gael.
"Mae o'n fethiant i beidio dod a'r darlun i gyd at ei gilydd."
Mae'r adroddiad yn nodi bod 'na ddiffyg parodrwydd ar ran asiantaethau i gymryd cyfrifoldeb o'r risg oedd y bachgen yn ei achosi.
Pam fod hynny'n digwydd?
"Gan fod cymaint o hanes o fihafio mor dreisgar mae hynny'n fethiant llwyr ac mae isio dysgu o hynna a gwneud yn siwr bod y risg yn cael ei fonitro'n fwy effeithiol.
"Mae'n dda bod yr argymhellion mor gryf ac yn mynd i wella'r sefyllfa."
Mae'r asiantaethau lleol yma, yr heddluoedd Cyngor Sir Gaerhirfryn, a'r heddlu gwrth-derfysgaeth wedi ymddiheuro am fethiannau a gyfrannodd at y gyflafan.
Mi fydd ail ran yr ymchwiliad yn edrych ar sut i atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, galw am sicrhau bod yr holl argymhellion o'r rhan gyntaf yn cael eu gweithredu'n llawn mae'r rhai sy'n cynrychioli'r plant a'u teuluoedd gan alw am ddal pobl yn atebol.
