Apêl wedi i gorff tad i ddau gael ei ddarganfod mewn pwll hwyiaid
Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio wedi i gorff dyn 21 oed oedd yn dad i ddau gael ei ddarganfod mewn pwll hwyiaid ym mhentref Dowlais ym Merthyr Tudful.
Dywedodd y llu bod eu hymholiadau yn parhau i farwolaeth "heb esboniad" Bradley Hawkins, wedi i'w gorff gael ei ddarganfod ar 24 Chwefror.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn rhoi diweddariadau o unrhyw ddatblygiadau allweddol i deulu Mr Hawkins.
Mae'r heddlu bellach yn gofyn am ragor o wybodaeth, deunydd CCTV neu gamera dashfwrdd rhwng 00:45 awr 01:15 awr ar gyfer cerbyd Audi A3 llwyd tywyll, gyda'r rhif cofrestru FR12 LSU o gwmpas y lleoliadau canlynol:
• The Grove, cyn troi i'r dde i lawr Ffordd Gwaeldygarth / The Avenue.
• Ar ddiwedd The Avenue, cyn mynd i'r chwith i'r Stryd Fawr tuag at gylchfan Penydarren.
• Y Gylchfan, cyn mynd i'r chwith i Lôn Tramroad gan fynd heibio Clwb Cymdeithasol Penydarren i'r chwith.
• Ar ddiwedd Lôn Tramroad cyn mynd i'r dde i Ffordd Gwaunfarren a thuag at Galon Uchaf.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600059134.
Mae teulu Bradley Hawkins wedi apelio am wybodaeth yn y gorffennol gan ddweud bod ei farwolaeth wedi "dinistrio" eu bywydau.
"Sut ydw i byth i fod i brosesu'r golled heb wybod beth ddigwyddodd?" gofynnodd ei fam Jaya Bouchard.
