Esgyrn hipopotamws ymysg yr olion 'rhyfeddol' dan un o gestyll Cymru
Mae esgyrn hipopotamws dan un o gestyll Cymru ymysg yr olion allai arwain at ail-ysgrifennu hanes cynhanesyddol Prydain, yn ôl ymchwilwyr.
Mae Prifysgol Aberdeen yn yr Alban yn dechrau archwiliad pum mlynedd i ogof dan gastell yn Sir Benfro eleni.
Dywedodd yr ymchwilwyr sy’n cloddio yn Ogof Wogan dan Gastell Penfro bod cloddiadau cychwynnol “eisoes wedi arwain at rai o’r darganfyddiadau cynhanesyddol mwyaf rhyfeddol ym Mhrydain”.
Mae’r darganfyddiadau yn cynnwys tystiolaeth “ryfeddol” o fodau dynol cynhanesyddol cynnar yn ogystal â gweddillion hipopotamws a grwydrodd Gymru 120,000 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd wedi cael ei gredu yn flaenorol fod yr ogof enfawr, y gellir mynd iddi i lawr grisiau troellog o’r castell, wedi’i chloddio gan y Fictoriaid.
Ond datgelodd cloddiadau ar raddfa fach rhwng 2021 a 2024 dystiolaeth helaeth o ymweliadau gan bobl ac anifeiliaid dros gyfnod o fwy na 100,000 o flynyddoedd.
Mae hynny, meddai ymchwilwyr, yn golygu bod yr ogof yn un o’r safleoedd cynhanesyddol pwysicaf ym Mhrydain.
Bydd Dr Rob Dinnis, a fu’n arwain y cloddiadau cychwynnol, yn arwain y prosiect pellach ar ran Prifysgol Aberdeen, sydd wedi cael cyllid gan Sefydliad Calleva.
“Er gwaethaf y gwaith cyfyngedig sydd wedi’i wneud hyd yma, gallwn ni eisoes ddweud bod Ogof Wogan yn safle gwirioneddol ryfeddol,” meddai Dr Dinnis.
“Nid yn unig y ceir tystiolaeth hynod brin o Homo sapiens cynnar, mae yna hefyd arwyddion o feddiannaeth ddynol hyd yn oed yn gynharach, mae’n debyg gan Neanderthaliaid.
“Does dim safle arall tebyg iddo ym Mhrydain – mae’n ddarganfyddiad unwaith-mewn-oes.
“Gyda’r prosiect newydd hwn gallwn ddysgu llawer iawn am ein cyndeidiau cynhanesyddol cynnar, am y ffordd roedden nhw’n byw a sut olwg oedd ar eu byd.”
Bydd y cloddiadau newydd yn dechrau ddiwedd mis Mai.

