Prydain yn paratoi ar gyfer prinder rhai mathau o fwyd os na ddaw rhyfel Iran i ben
Mae Llywodraeth y DU yn pryderu y gallai Prydain wynebu prinder rhai mathau o fwyd, gan gynnwys cyw iâr a phorc, dros yr haf os bydd y rhyfel yn Iran yn parhau.
Yn ôl papur newydd The Times mae swyddogion wedi llunio cynlluniau wrth gefn ar gyfer y “senario waethaf”.
Y pryder yw y bydd prinder carbon deuocsid, sy’n hollbwysig i’r diwydiant bwyd, os nad yw Culfor Hormuz oddi ar arfordir Iran wedi ailagor erbyn Mehefin 2026.
Mae CO2 yn cael ei ddefnyddio i helpu i ymestyn oes silff bwydydd, gan gynnwys salad, cig wedi’i becynnu a nwyddau eraill.
Mae Rhif 10 Stryd Downing, y Trysorlys a’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi bod yn rhan o’r gwaith paratoi.
Mae CO2 yn cael ei ddefnyddio yn y broses o ladd bron pob mochyn a mwy na dwy ran o dair o ieir, ac mae pryderon am faint o gyflenwad dros ben sydd gan y sector.
Byddai bragdai hefyd yn cael eu taro gan fod y nwy’n cael ei ddefnyddio i wneud diodydd yn befriog.
Mae pryderon ynghylch y posibilrwydd y gallai prinder diodydd gyd-daro â Chwpan y Byd FIFA, sy’n dechrau ar 11 Mehefin.
Mae swyddogion yn bwriadu rhoi blaenoriaeth i ofal iechyd, gan ofni y gallai cwymp yng nghyflenwadau CO2 greu perygl i fywyd oherwydd diffyg rhew sych i gadw cyflenwadau gwaed, organau a brechlynnau’n oer, meddai The Times.
‘Atgyfnerthu’
Mae’r cadoediad rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran i fod i ddod i ben ddydd Mawrth, ond roedd adroddiadau nos Fercher y gallai gael ei ymestyn.
Dywedodd y Tŷ Gwyn fod cynlluniau i ailddechrau trafodaethau heddwch yn “gynhyrchiol ac yn parhau”.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: “Fe wnaethon ni gymryd camau pendant fis diwethaf i atgyfnerthu cyflenwadau hanfodol y DU o CO2 drwy ailgychwyn gwaith yn ffatri bioethanol Ensus yn Teesside dros dro.
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda grwpiau busnes i fynd i’r afael ag effaith digwyddiadau yn y Dwyrain Canol.
“Mae senarios gwaethaf rhesymol yn arf cynllunio a ddefnyddir gan arbenigwyr ac nid ydynt yn golygu y bydd y pethau hyn o reidrwydd yn digwydd yn y dyfodol.”
Llun: REUTERS/Stringer

