Caernarfon yn cynnig tocynnau am ddim i gefnogwyr ar gyfer gêm ola'r tymor

Cefnogwyr Caernarfon

Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon yn cynnig tocynnau am ddim i'w holl gefnogwyr ar gyfer gêm olaf y tymor.

Fe fydd y clwb yn wynebu Pen-y-bont ddydd Sadwrn, wythnos wedi iddyn nhw ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y clwb eu bod yn cynnig y tocynnau am ddim i gefnogwyr fel diolch am eu cefnogaeth drwy gydol y tymor.

"I ddiolch i chi am eich cefnogaeth anhygoel, mae gêm ola’r tymor nos Sadwrn am ddim i bawb," meddai'r clwb.

Mae Caernarfon wedi bod yn chwarae eu gemau cartref yn Llandudno y tymor hwn, gan fod gwaith ailddatblygu yn cael ei wneud ar gae'r Oval.

Roedd tua 1,800 o gefnogwyr y clwb yn bresennol yn Rodney Parade ddydd Sul diwethaf wrth iddyn nhw guro'r Fflint 3-0 i ennill Cwpan Cymru.

Bydd y cefnogwyr yn cael eu gwobrwyo gyda thaith i Ewrop yn yr haf wrth i'r Cofis gymhwyso ar gyfer Cyngres Europa.

Roedd hi'n daith i'w chofio y tro diwethaf i Gaernarfon chwarae yn Ewrop yn 2024.

Enillodd y Cofis ar giciau o'r smotyn yn erbyn y Crusaders o Ogledd Iwerddon, cyn colli yn erbyn Legia Warsaw o Wlad Pwyl yn yr ail rownd gymhwyso.

Bydd Caernarfon yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y gystadleuaeth ar 16 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.