Tad o Fôn wedi marw ar ôl cael ei wasgu rhwng peiriannau fferm
Tad o Fôn wedi marw ar ôl cael ei wasgu rhwng peiriannau fferm
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys rhai manylion a allai beri gofid.
Mae cwest i farwolaeth tad i dri o Ynys Môn wedi clywed ei fod wedi marw mewn damwain ar fferm ar ôl cael ei wasgu rhwng tractor a pheiriant llwytho ar flaen y cerbyd.
Bu farw Endaf Telford Jones o Refail Ceirchiog, Engedi, yn 49 oed mewn digwyddiad ar fferm yn Rhyd-wyn ar 12 Mawrth 2025.
Mewn cwest i’w farwolaeth yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd Sarah Riley, y Crwner Cynorthwyol dros Ogledd Orllewin Cymru fod Mr Jones wedi marw o ganlyniad i asffycsia (asphysixa) ar ôl cael ei wasgu.
Er i’r gwasnaethau brys gael eu galw, bu farw yn y fan a’r lle.
Mewn datganiad gan ei wraig, Rhian Jones, a gafodd ei ddarllen yn y gwrandawiad, clywodd y llys fod Mr Jones yn ŵr a thad oedd “wrth ei fodd yn gweithio” ac yn gwneud popeth “i roi’r bywyd gorau bosib i’w deulu.”
“Pan gefais i’r alwad, dyna oedd diwrnod gwaethaf fy mywyd,” meddai.
‘Profiadol’
Yn gweithio i gwmni peiriannau DJS Hydraulics o Amlwch, roedd Mr Jones yn “beiriannydd profiadol” oedd yn arbenigo mewn trwsio peiriannau fferm.
Ar fore 12 Mawrth, cafodd Mr Jones ei alw o’r depo ym Mangor i fferm Hafoty yn Rhyd-wyn, i drwsio pibellau hydrolig ar dractor y perchnogion, oedd yn ddiffygiol.
Ar ôl ymweld â'r fferm, fe aeth Mr Jones i depo arall y cwmni yn Amlwch er mwyn casglu pibellau newydd, cyn dychwelyd i’r fferm toc cyn 12.00.
Wrth weithio ar ei ben ei hun, roedd yn rhaid i Mr Jones osod pedair neu bump o bibellau newydd ar y tractor.
Wrth roi tystiolaeth yn y cwest, dywedodd James Benton, Arolygydd ar ran Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) bod Mr Jones wedi llwyddo i newid sawl un o’r pibellau.
Ond dywedodd ei fod yn credu bod Mr Jones wedi camgymryd fod y pwysedd o un o’r pibellau wedi’i wagio pan nad oedd hynny wedi digwydd.
Roedd y pibellau wedi’u dynodi gyda lliwiau gwahanol, ac mae’n bosib ei fod wedi cysylltu dwy â lliw gwahanol.
“Yn sefyll rhwng yr atodiad a bloc falfiau 2, fe fyddai’r atodiad wedi cyfangu, gan dynnu’r llwyth yn ôl a’i wasgu," meddai.
“Rydym yn credu ei fod wedi camgymryd fod y system wedi cyfangu eisoes, pan nad oedd.”
Fe wnaeth y symudiad arwain at Mr Jones yn cael ei wasgu rhwng bloc falfiau a’r llwythwr, wrth i freichiau’r llwythwr godi i fyny.
Roedd marciau ar y llawr yn dynodi fod y sbigynnau wedi crafu’r tir wrth godi i fyny, ar ôl bod mewn safle o fod wedi’i hanelu at y llawr.
Ar ôl i Mr Jones ffonio ei gyd-weithwyr yn y depo ym Mangor, cafodd y gwasanaethau brys eu galw.
Un o’i gyd-weithwyr oedd yn byw yn gyfagos, Dafydd Jones, oedd y person cyntaf yn y lleoliad, ond fe gafodd Endaf Jones ei ddarganfod yn farw yn y fan a’r lle.
Ar ôl cynnal post mortem, daeth y patholegydd Dr Brian Rogers i’r casgliad ei fod wedi marw o asfficsia o ganlyniad i wasgu, gyda sawl un o’i brif organnau wedi’u cywasgu.
Dywedodd Mr Benton bod DJS Hydraulics wedi rhoi’r hyfforddiant addas i Mr Jones, a’i fod yn rhywun oedd wedi arfer gweithio ar ei ben ei hun.
O ganlyniad i’r achos, mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi gwneud sawl argymhelliad i’r cwmni, gan gynnwys cadw asesiadau risg a datganiadau gwaith mwy manwl, yn ogystal â chadw dogfennaeth yn ymwneud â hyfforddiant staff.
Cafodd marwolaeth Mr Jones ei ddyfarnu fel damwain gan y rheithgor.