Carcharu dyn a thri aelod o'i deulu wedi iddo ffoi ar ôl taro plentyn ar ei feic modur

Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Kaylem Longhurst

Mae dyn 18 oed wedi cael ei garcharu ar ôl iddo daro yn erbyn plentyn pum mlwydd oed ar ei feic modur cyn ffoi o'r safle. 

Cafodd tri aelod o deulu Kaylem Longhurst hefyd eu carcharu am ei gynorthwyo. 

Cafodd Arlo Buckley anafiadau difrifol ar ôl iddo gael ei daro a'i lusgo ar hyd ffordd yn Shotton, Sir Y Fflint ar 11 Medi 2024.

Ddydd Mawrth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fe gafodd Kaylem Longhurst ei garcharu am 14 mis.

Clywodd y llys fod Longhurst wedi gadael Arlo Buckley ar y ffordd ac i'r bachgen gael ei gludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl yn ddiweddarach.

Wedi ymchwiliad gan yr heddlu, cafodd Longhurst ei arestio yn ei gartref yn Nantwich ac fe gyfaddefodd iddo yrru'n beryglus.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Chwefror, cafodd ei ddyfarnu'n euog o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd aelodau o deulu Longhurst gan gynnwys ei fam, Terry Fellows, 43 oed a Shane Hunt, 39 oed, eu dyfarnu'n euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder, ar ôl iddyn nhw ei gynorthwyo wedi iddo ffoi.

Cafodd Fellows ei charcharu am 26 mis a Hunt am 21 mis yn y gwrandawiad dedfrydu ddydd Mawrth.

Roedd chwaer Kaylem Longhurst, Cara Haran, 25 oed eisoes wedi pledio'n euog am ei rhan hi yn y cynllwyn a chafodd ei charcharu am naw mis.

Image
Chwith i dde: Cara Haran, Shane Hunt a Terry Fellows. (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Chwith i dde: Cara Haran, Shane Hunt a Terry Fellows. (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)

Dywedodd Ditectif Arolygydd dros dro Uned Plismona Ffyrdd Gogledd Cymru, Katie Davies bod gweithredoedd teulu Longhurst i guddio'r gwir yn "hynod bryderus".

“Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus a thrallodus iawn, lle cafodd plentyn pump oed ei adael ag anafiadau difrifol, tra bod y person oedd yn gyfrifol wedi dewis ffoi o’r lleoliad yn hytrach na stopio a helpu.

“Yr hyn sy’n hynod bryderus yw bod aelodau o deulu Longhurst wedi’i gynorthwyo i geisio osgoi cyfiawnder, gan gynnwys ei helpu i adael yr ardal a dinistrio tystiolaeth.

“Hoffwn ganmol dewrder Arlo a’i deulu, a diolch hefyd i aelodau’r cyhoedd a ddaeth ymlaen â gwybodaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.