Newyddion S4C

Heddlu'n ymchwilio wedi i 50 o ddefaid gael eu dwyn yn Sir y Fflint

Defaid

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i 50 o ddefaid gael eu dwyn o gae yn sir y Fflint

Yn ôl Heddlu'r Gogledd, fe gafodd y praidd ei ddwyn rhwng dydd Iau, 2 Medi, a dydd Sadwrn, 4 Medi o gae ger yr A550 ym Mhenymynydd.

Mae gan y defaid dagiau ar eu clustiau, gyda'r rhif UK713344 arnynt.

Yn ogystal, mae marc 'E' lliw glas ar eu hochr dde.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Z131063.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.