'Mwy o drais mewn carchardai' oherwydd lefelau profiad swyddogion

Carchar

Gallai carchardai yn y Deyrnas Unedig brofi trais di-ben-draw wrth i brofiad ymhlith swyddogion carchar ddisgyn i'w lefel isaf ers 15 mlynedd, yn ôl cymdeithas ar eu rhan. 

Mae Cymdeithas y Swyddogion Carchar yn rhybuddio gweindogion Llywodraeth San Steffan bod angen gwella'r modd y mae swyddogion yn cael eu recriwtio a'r ymdrechion i'w cadw yn y swyddi hynny.  

Yn ôl ffigyrau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r cyfnod y mae swyddogion carchardai yn aros yn eu swyddi ar y lefel isaf ers 2000.     

Yn ôl Cymdeithas y Swyddogion Carchar sy'n cynrychioli staff, mae'r ffigyrau yn achosi pryder mawr.  

Maen nhw'n dweud bod hynny'n rhybudd i'r gyfundrefn gyfiawnder yn ehangach.  

Yn ol yr Aelod Seneddol Llafur, Grahame Morris, sy'n cadeirio grŵp traws bleidiol ym maes cyfiawnder, gallai'r colledion yn nifer y gweithlu arwain at fwy o drais mewn carchardai. 

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, roedd 22,067 o swyddogion carchar mewn swydd llawn amser ddiwedd y llynedd. 

213,125 oedd cyfanswm y blynyddoedd o brofiad ymhlith swyddogion carchar.  

Mae hynny'n ostyngiad sylweddol o gymharu â Rhagfyr 2010, pan roedd 24,501 o swyddogion llawn amser a gwerth 329,353 o flynyddoedd o brofiad.  

Hyd yn oed pan blymiodd y niferoedd i'w lefel isaf yn 2014, roedd gan swyddogion 65,000 o flynyddoedd yn fwy o brofiad na staff presennol.  

Mae niferoedd y swyddogion carchar yn uwch nag ar adegau eraill yn y pum mlynedd ddiwethaf, ond mae'r blynyddoedd o brofiad sydd ganddyn nhw wedi parhau i ddisgyn.

Ymosodiadau 

Daw'r pryderon am ddiogelwch wedi ymosodiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, pan gafodd tri swyddog carchar eu hanafu'n ddrwg yng Ngharchar HMP Frankland ger Durham, gogledd Lloegr.

Cafodd y tri eu trywanu a chafodd olew coginio poeth ei daflu drostyn nhw.

Plediodd Hashem Abedi a gynllwyniodd ymosodiad bom Manceinion yn ddieuog i dri chyhuddiad o geisio llofruddio y llynedd ac mae'r achos yn parhau. 

Wrth ymateb i'r pryderon diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y Llywodraeth wedi cynyddu cyflogau swyddogion carchar a bod y niferoedd sy'n ymddiswyddo ar ei lefel isaf ers pedair blynedd.   

Ychwanegodd: “Mae'r llywodraeth hon wedi wedi etifeddu system garchardai sydd mewn argyfwng, gyda phrinder staff a swyddogion yn gweithio mewn amgylchiadau heriol 

“Mae cyflogau swyddogion carchar wedi codi i fwy na £37,000, ac ymddiswyddiadau ar eu lefel isaf ers pedair blynedd. Mae ein holl swyddogion carchar wedi eu hyfforddi'n drylwyr,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.