Newyddion S4C

Hyfforddi dau gi bach i daclo gwerthwyr tybaco anghyfreithlon

ITV Cymru 05/09/2021
Ci synhwyro

Mae dau gi bach wedi cychwyn ar eu hyfforddiant i fod yn gŵn synhwyro fel rhan o ymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael â’r fasnach tybaco anghyfreithlon.

Bydd Griff y Springer Spaniel a Kevin y Cocker Spaniel yn ymuno â thîm o gŵn synhwyro ‘Operation CeCe’, sydd wedi helpu i ddarganfod gwerth £2m o dybaco, sigaréts, ac arian anghyfreithlon ers mis Ionawr.

Mae’r ymgyrch yn cael ei rhedeg gan yr asiantaeth Safonau Masnach, gyda phedwar ci synhwyro eisoes yn rhan o’r ymgyrch: Scamp, Yoyo, Cooper, a Maggie.

Bydd Scamp ac Yoyo yn ymddeol o fewn y flwyddyn nesaf, gyda Griff a Kevin yn camu i’r adwy yn eu lle.

Fe fydd hyfforddwr Griff a Kevin, Stuart Phillips o Gydweli, sydd â 22 mlynedd o brofiad, yn ymuno â nhw ar eu cyrchoedd.

Image
Cynnyrch anghyfreithlon
Sigaréts anghyfreithlon wedi eu canfod gan gŵn synhwyro (Llun: BWY Canine)

Mae hi’n cymryd rhwng chwech a 10 mis i hyfforddi ci synhwyro, gyda'r hyfforddiant yn cynnwys chwarae a cheisio ymgyfarwyddo’r cŵn gyda gwahanol bobl a lleoliadau.

Rhwng mis Ionawr a mis Awst eleni, cafodd tybaco, sigaréts ac arian anghyfreithlon eu darganfod gan Operation CeCe mewn dros 400 siop, yn ogystal â chartrefi, cerbydau a safleoedd storio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.