'Y Gân' yn dod yn drydydd yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
Mae cyfansoddwyr cân fuddugol Cân i Gymru eleni wedi dod yn drydydd yng nghystadleuaeth y 'Gân Ryngwladol Orau' yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
'Y Gân' gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru 2026, gyda'r gantores Sara Owen yn perfformio’r gân.
Fe berfformiwyd y gân nos Iau, wrth i'r ŵyl ddychwelyd i dref Carlow yn nwyrain canolbarth yr Ynys Werdd.
Cân o eiddo i gyfansoddwr Gwyddelig gipiodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth eleni.
'Y Gân' oedd ail gân gan y tri chyfansoddwr oedd wedi cyrraedd rhestr fer Cân i Gymru eleni. Fe gollodd Emlyn dri ffrind yn sydyn iawn ac roedd hynny yng nghefn ei feddwl wrth ysgrifennu geiriau’r gân.
Y linell, ‘Ond er bod bywyd wedi dwyn dy lais’ symudodd y gân yn ei flaen. Mae Geth yn ei disgrifio hi fel anthem o gân.
Roeddent yn cystadlu yn erbyn cystadleuwyr o bedair gwlad Geltaidd wahanol.
