Darganfod corff bachgen 17 oed oedd ar goll ger Castell y Waun
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi bod corff wedi ei ddarganfod wrth chwilio am fachgen 17 oed oedd ar goll yn ardal Castell y Waun.
Fe gafodd archwiliadau eu cynnal gan dimau chwilio ac achub arbenigol mewn llyn ger y castell ar ôl cael gwybod bod y bachgen wedi mynd i'r dŵr yno brynhawn dydd Mawrth.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae'r crwner wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.
Dywedodd y Prif Dditectif Uwch-arolygydd Sian Beck o Heddlu'r Gogledd: “Mae fy meddyliau a'm cydymdeimlad dwysaf gyda'i anwyliaid, sy'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol yn dilyn y digwyddiad trasig hwn.
“Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae ei deulu wedi cael gwybod.
“Gofynnwn yn garedig am barchu preifatrwydd y teulu yn ystod yr amser anodd hwn.”
