Bae Colwyn a'r Bala ymysg y clybiau i fethu cael trwyddedau Uwch Gynghrair Cymru

Bae Colwyn v Y Bala

Mae Bae Colwyn a'r Bala ymysg naw o glybiau sydd heb sicrhau trwyddedau er mwyn chwarae yn y Cymru Premier JD y tymor nesaf.

Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) nos Fercher bod y ddau glwb wedi methu â sicrhau trwydded, gan olygu na fydd modd iddynt chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf.

Nododd CBDC eu bod wedi gwrthod cais y ddau glwb am drwydded am "resymau personél ac ariannol."

Mae gan y clybiau sydd heb sicrhau trwydded chwe niwrnod i apelio penderfyniad CBDC cyn cyfarfod y Bwrdd Apelio ar 16 Ebrill.

Mae'r Bala wedi cadrnhau y byddan nhw'n apelio'r penderfyniad. Dyw Bae Colwyn heb ymateb hyd yma.

Mae ceisiadau am drwyddedau gan saith clwb yn yr ail haen hefyd wedi cael eu gwrthod gan y gymdeithas.

Y clybiau hyn yw:

1.Caerau Trelai (am resymau ariannol)

2.Caerfyrddin (am resymau personél ac ariannol)

3.Treffynnon (am resymau personél ac ariannol)

4.Llanilltud Fawr (am resymau chwaraeon, personél ac ariannol)

5.Dinas Casnewydd (am resymau chwaraeon, personél ac ariannol)

7.Penrhyncoch (am resymau chwaraeon, personél ac ariannol).

Fe gafodd 34 o geisiadau gan glybiau eraill yn y Cymru Premier JD ac ail haen Cymru eu derbyn.

Dywedodd CBDC bod ceisiadau yn cael eu hasesu ar sawl ffactor gan gynnwys hyfforddwyr, isadeiledd, cyllid, personél a ffactorau cyfreithiol.

Nod y system drwyddedu yw i "gynorthwyo gwelliant a datblygiad parhaus clybiau pêl-droed ar y lefel uchaf yng Nghymru," meddai CBDC.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.