Disgwyl i Lauren Price focsio ddwy waith yn erbyn Claressa Shields

Price / Shields

Mae disgwyl i'r bocsiwr o Gymru Lauren Price ddychwelyd i'r cylch yr haf hwn cyn arwyddo cytundeb dwy ornest i wynebu Claressa Shields yn ôl yr hyrwyddwr Ben Shalom. 

Fe wnaeth Price amddiffyn ei theitlau bocsio'r byd wedi iddi ennill ei gornest nos Sadwrn yn erbyn Stephanie Pineiro. 

Fe lwyddodd Price, 31, i amddiffyn gwregys pwysau welter y WBA, IBF a WBC, ond roedd yn rhaid iddi frwydro'n galed er mwyn cipio’r fuddugoliaeth.

Fe gafodd anaf i'w cheg ym mhumed rownd yr ornest yn erbyn y bocsiwr o Puerto Rico a oedd erioed wedi colli gornest o'r blaen.

Ond fe barhaodd y Gymraes o Ystrad Mynach i ymladd hyd at y gloch olaf a chafodd ei gwobrwyo gyda phenderfyniad unfrydol ar y sgoriau.

Mae disgwyl i Price wynebu gwrthwynebydd sydd heb ei gyhoeddi eto, a hynny ym mis Awst cyn wynebu Shields dros ddwy frwydr.

Mae Shields wedi ennill 15 teitl byd ar draws pum adran pwysau. 

Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd Shalom: "Unwaith yn UDA, a wedyn gobeithio un lle y gallwn ni ddod naill ai i Stadiwm Dinas Caerdydd neu Gastell Caerdydd a gwneud hynny ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf oherwydd mae hi'n gwerthu allan yr Utilita Arena yn rhy gyflym ar hyn o bryd. 

"Mae hi angen rhywle mwy."

Mae Shields yn dal y pedwar teitl yn y pwysau trwm, ond fe gadarnhaodd Shalom y byddai'r ddwy frwydr yn erbyn Price yn debygol o fod yn y pwysau canol.

"Byddwn i'n dweud mai pwysau mwyaf naturiol Lauren, ei phwysau gorau, ydy'r adran pwysau canol," meddai. 

"Byddai'n rhaid i Claressa ddod lawr i'r adran pwysau canol, ond dyna'r pwysau lle mae hi wedi bod fwyaf llwyddiannus. 

"Felly mewn gwirionedd, mae hi'r frwydr berffaith i'r ddwy ohonyn nhw."

Llun: Reuters/Andrew Couldridge

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.