‘Diwedd pennod’: Un o fwytai amlycaf Cymru i gau
Mae un o fwytai mwyaf adnabyddus Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cau ei ddrysau fis nesaf.
Mewn datganiad ar Instagram ddydd Sadwrn, dywedodd prif gogydd y bwyty Gwen, ym Machynlleth, Corrin Harrison, y byddai’r busnes yn cau ym mis Mai ar ôl yr ŵyl gomedi yn y dref.
“Mae’r amser wedi dod i mi a thîm Gwen symud ymlaen i rywbeth newydd,” meddai Mr Harrison.
Yn chwaer fusnes i fwyty Ynyshir ger Machynlleth, cafodd Gwen ei sefydlu dair blynedd yn ôl.
Cafodd ei enwi’r 24ain bwyty gorau ym Mhrydain a’r gorau yng Nghymru yn llawlyfr Harden’s yn 2025, sy’n seiliedig ar filoedd o adolygiadau.
Mae Mr Harrison, sy'n wreiddiol o Lundain, hefyd wedi ymddangos yng nghyfres goginio’r Great British Menu dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y rownd derfynol wrth gynrychioli Cymru.
“Mae'r tair blynedd diwethaf yn Gwen wedi bod yn anhygoel,” meddai’r datganiad.
“Mae'r cyfle i gau'r drysau ar ein telerau ein hunain yn rhywbeth prin yn y diwydiant hwn, a rhywbeth yr ydym yn hynod falch o allu ei wneud.
“Mae'n teimlo fel yr amser iawn i orffen y bennod hon yn gryf ac edrych ymlaen at yr hyn sy'n dod nesaf.
Ychwanegodd: “Maen nhw'n dweud bod angen cymuned i fagu plentyn, ac mae'r un peth yn wir am fwyty – am gymuned yw Machynlleth!
"Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y ffordd.”
Prif Lun: Instagram/gwenrestaurant