Iran a'r Unol Daleithiau yn derbyn 'cynllun dwy haen' i ddod â'r rhyfel i ben

Iran Reuters.

Mae Iran a'r Unol Daleithiau wedi derbyn "cynllun dwy haen" i ddod â'r rhyfel rhwng y ddwy wlad i ben yn ôl adroddiadau. 

Mae'r cynllun yn cynnwys cadoediad i ddechrau cyn cyrraedd cytundeb terfynol i ddod â'r rhyfel i ben yn ôl y ffynhonnell. 

Dywedodd y ffynhonnell fod "angen cytuno ar bob elfen heddiw". 

Daw hyn wedi i'r Arlywydd Trump fygwth ymosod ar seilwaith Iran os na fydd Culfor Hormuz yn cael ei agor erbyn nos Fawrth.

Fe roddodd yr arlywydd derfyn amser o 20:00 amser dwyreiniol UDA, sef 01:00 ddydd Mercher yn y DU. 

Yn rhan o'r cynnig fe fyddai yna gadoediad ar unwaith a fyddai'n cynnwys ail-agor Culfor Hormuz gyda 15 i 20 diwrnod wedyn yn cael eu caniatáu i gwblhau setliad ehangach.

Mae disgwyl y byddai'r cytundeb terfynol yn cynnwys ymrwymiadau gan Iran i beidio ag adeiladu arfau niwclear, yn gyfnewid am leddfu sancsiynau a rhyddhau asedau wedi'u rhewi, yn ôl y ffynhonnell.

Ychwanegodd y ffynhonnell mai Pacistan sydd yn cynnal y trafodaethau rhwng Iran a'r Unol Daleithiau, sef yr unig wlad sydd yn cyfathrebu â'r ddwy wlad yn y trafodaethau.

Fe ddywedodd Donald Trump ddydd Sul y bydd ei wlad yn targedu seilwaith sifil Iran, gan ddweud wrth y wlad y byddan nhw'n "byw yn Uffern" os na chaiff y culfor ei agor.

Fe wnaeth Iran gau'r culfor lle mae 20% o olew y byd yn teithio drwyddo'n ddyddiol ar ddechrau mis Mawrth yn dilyn ymosodiadau gan yr Unol Daleithiau ac Israel. 

Ers hynny, mae pris olew tanwydd wedi cynyddu'n gyflym, gyda phris olew crai yn codi i dros $100 y gasgen.

Dywedodd Mr Trump y bydd "dydd Mawrth yn Ddiwrnod yr Orsaf Bŵer, a Diwrnod y Bont, i gyd wedi'u lapio mewn un" yn Iran os na chaiff y culfor ei agor cyfeiriad, yn ôl pob tebyg, at ei fygythiadau i ddinistrio seilwaith y wlad.

Mewn ymateb, fe wnaeth Iran rybuddio am ddial "llawer mwy dinistriol" os y bydd seilwaith sifil y wlad yn cael ei dargedu.

Mae disgwyl i'r Arlywydd Trump roi diweddariad yn ddiweddarach am yr aelod o luoedd America a gafodd ei achub ar ôl i Iran saethu awyren ymladd i lawr.

Roedd y swyddog systemau arfau yn teithio ar awyren ymladd F-15E yr Unol Daleithiau a gafodd ei saethu i lawr yn ne Iran ddydd Gwener.

Cafodd peilot yr awyren ei achub, ond nid oedd lleoliad y swyddog yn hysbys – gan arwain at ras rhwng Iran ac America i geisio dod o hyd iddo.

Erbyn oriau mân fore Sul, dywedodd Arlywydd America fod y swyddog wedi cael ei achub yn dilyn ymgyrch filwrol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.