Richard Rees yn ymddeol ar ôl 50 mlynedd o ddarlledu ar y BBC
Mae’r cyflwynydd Richard Rees wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ôl 50 mlynedd o weithio ar raglenni'r BBC.
Mi gyhoeddodd ei ymddeoliad ar ei raglen fore Sadwrn ar BBC Radio Cymru.
Mae Richard Rees wedi bod yn cyflwyno ar ddydd Sadwrn ers dros 20 o flynyddoedd, ac fe fydd ei raglen olaf yn cael ei darlledu ar 11 Ebrill.
Dros y blynyddoedd, bu’n gweithio ar lu o sioeau amrywiol ar draws gorsafoedd y BBC: o sioeau cerddorol megis Sosban ac Ar Hyd y Nos ar BBC Radio Cymru i Rockpile a Get Set ar BBC Radio Wales.
Nid yn unig ei fod wedi bod yn cyflwyno rhaglenni adloniannol, ond mae hefyd wedi gwneud cyfraniad i wasanaethau newyddiadurol, materion cyfoes a chwaraeon hefyd.
Datgelodd Richard atgof o’i ddiwrnod cyntaf yn gweithio i'r BBC yn 1976: “Rwy’n cofio cyrraedd yn y car am 07.30 y bore, parcio ac eistedd tu allan i Ganolfan y BBC yn Llandaf yn syllu ar yr adeilad enfawr gyda’r cyntedd mawr o wydr gan feddwl “Be ddiawl dwi’n neud fan hyn?”... yr amheuaeth mawr, oeddwn ni’n ddigon da? Bues i bron a gyrru adre.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Mae gweithio gyda’r BBC yng Nghymru am 50 o flynyddoedd wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd ar sawl lefel.
"Mae wedi bod yn fraint cael mynediad i gartrefi bobl drwy gyfrwng y radio a dod i adnabod cynulleidfa ac unigolion ar draws y wlad.
"Mae wedi bod yn anrhydedd cael cynrychiolu’r gwasanaeth darlledu enwocaf a mwyaf uchel ei pharch yn y byd ar gymaint o achlysuron.”
Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru: “Hoffwn ddiolch o galon i Richard am ei gyfraniad eithriadol dros y degawdau. Fel un o’r lleisiau cyntaf ar yr orsaf, mae o wedi cynnig cwmnïaeth gynnes i genedlaethau o wrandawyr BBC Radio Cymru, tra hefyd yn hyrwyddo y Sin Gerddoriaeth Gymraeg gyda'i angerdd tawel."
O ganol Ebrill ymlaen, Huw Stephens fydd wrth y llyw gyda sioe newydd ar foreau Sadwrn o 0530 - 0700.