Andy Powell yn cyrraedd gêm rygbi elusennol mewn bygi golff

Andy Powell yn cyrraedd gêm rygbi elusennol mewn bygi golff

Fe wnaeth Andy Powell gyrraedd gêm rygbi elusennol ddydd Gwener mewn bygi golff.

Dyma oedd gêm gyntaf Clwb Rygbi Penarth ers i dân achosi difrod sylweddol yno ym mis Rhagfyr y llynedd.

Fe wnaeth y clwb wynebu tîm Barbariaid Cymru ar Ddydd Gwener y Groglith, gan barhau â thraddodiad hanesyddol.

Mae Andy Powell yn enwog am gael ei arestio am yrru bygi golff i lawr yr M4 ychydig oriau ar ôl buddugoliaeth munud olaf tîm Cymru dros yr Alban yn Chwe Gwlad 2010.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 15 mis wedi'r digwyddiad.

Roedd sawl un yn bresennol ym Mhenarth ddydd Gwener i wylio'r ornest i nodi 125 mlynedd ers y gêm gyntaf rhwng Clwb Rygbi Penarth a Barbariaid Cymru yn 1901.

Fe gafodd adeilad Clwb Athletau Penarth, sydd yn gartref i Glwb Rygbi Penarth, Clwb Criced Penarth, a Chlwb Hoci Menywod Penarth ei ddifrodi'n sylweddol gan dân ym mis Rhagfyr y llynedd.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn ôl ymchwilad i'r tân.

'Dydd arbennig'

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C ddydd Iau, dywedodd hyfforddwr tîm cyntaf Clwb Rygbi Penarth, Owain George fod wynebu'r Barbariaid yn "achylsyr pwysig iawn" yn hanes y clwb.

"Mae ‘di bod yn effaith enfawr ar y clwb [tân mis Rhagfyr 2025], y’n ni ‘di trial cadw chwarae rygbi ma’ lot o bobl yn dod a mynychu’r clwb yn yr wythnos ac ar dydd Sadwrn a dydd Sul, ond y peth pwysicaf i ni yw bo’ ni wedi bod yn gallu chwarae rygbi a cadw chwarae rygbi."

Ychwanegodd Andrew Edwards, hyfforddwr dan-14 y clwb: "Mae ‘di bod yn anodd i  Penarth y tymor ’ma a jyst i colli rywle i gymdeithasu, mae ‘di bod yn anodd, mae’n mynd i fod yn ddydd mawr i’r clwb dwi’n credu jyst i neud rhywbeth fel hyn i ddod â phobl ‘nôl i’r clwb jyst i cario mlaen.

"Ma’ nhw mo’yn dod ‘nôl ar dydd Sul, ar ôl gêm i jyst gymdeithasu gyda’i ffrindiau, edrych ar y rygbi ar y teledu, a’r un peth gyda rhieni a’r cefnogwyr hefyd, jyst fingers crossed ma’ popeth yn mynd yn y cyfeiriad iawn."

Cafodd Clwb Rygbi Penarth ei ffurfio ym 1880 gan Cyril a Llewellyn Bachelor, ac mae gan y tîm hanes cyfoethog gan gyfrannu chwaraewyr i'r llwyfan rhyngwladol tan iddo ddechrau edwino yng nghanol y 70au, a ddigwyddodd ar yr un pryd ag ail-strwythuro mawr rygbi Cymru. 

Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i'r clwb oedd y gêm ar ddydd Gwener y Groglith yn erbyn y Barbariaid. 

"Ma' bois sydd wedi gwisgo'r crys coch i Gymru yn dod i chwarae, Bradley Davies, Andy Powell, Tom Shanklin... ma' Evan Lloyd a Jamie Robinson yn mynd i helpu mas gyda'r tîm," meddai Andrew. 

"Ni 'di cadw'r Barbariaid yn strictly Cymraeg ac mae'n mynd i fod yn ddydd arbennig i'r clwb jyst i neud rhywbeth fel hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.