Pennaeth M&S yn galw am wneud rhagor i fynd i'r afael â throsedd

M&S

Mae troseddu wedi mynd yn “fwy hy, yn fwy trefnus ac yn fwy ymosodol”, yn ôl cyfarwyddwr manwerthu Marks & Spencer.

Mae Thinus Keeve wedi galw ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Daw hyn ar ôl i bobl ifanc yn eu harddegau drefnu cwrdd yn Clapham, de Llundain, yn ystod yr wythnos ddiwethaf gan ddefnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys TikTok a Snapchat, cyn iddyn nhw ruthro i mewn i siopau.

Ymatebodd tua 100 o swyddogion i ymddygiad gwrthgymdeithasol ddydd Mawrth, yn ôl Heddlu’r Met. Cafodd pump o bobl eu hanafu, gan gynnwys pedwar swyddog heddlu.

Ddydd Iau, dywedodd Heddlu Manceinion Fwyaf fod gorchymyn gwasgaru 48 awr mewn grym a oedd yn cwmpasu canol tref Rochdale tan 11.30 ddydd Sadwrn.

Roedd adroddiadau fod grwpiau o bobl ifanc wedi bod yn aflonyddu ar staff ac yn achosi difrod troseddol mewn busnes ac yng nghanol y dref ddydd Mercher.

Mewn datganiad ar wefan Marks & Spencer, dywedodd Mr Keeve: “Mae’n dod yn fwy hy, yn fwy trefnus ac yn fwy ymosodol.

“Heb lywodraeth sy’n mynd ati o ddifrif i daclo trosedd a Maer sy’n rhoi blaenoriaeth i blismona effeithiol, does gyda ni ddim grym.

“Mae angen ymateb heddlu cryfach, cyflymach a mwy cyson arnon ni, gan ddefnyddio offer sydd eisoes yn bodoli i dargedu troseddwyr a mannau lle mae trosedd yn broblem.

“Ac mae angen llawer mwy o dryloywder am drosedd fel bod gwir raddfa ac effaith y broblem yn cael eu deall, a bod modd defnyddio hynny i dargedu adnoddau.”

Dywedodd Mr Keeve fod prif weithredwr M&S, Stuart Machin, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, a’i fod ef wedi ysgrifennu at Faer Llundain, Syr Sadiq Khan, am y mater.

‘Hyrwyddo trais’

Mae Syr Sadiq wedi dweud bod y golygfeydd o bobl ifanc yn eu harddegau yn Clapham yn rai “cwbl annerbyniol”, a dywedodd fod arestiadau pellach yn debygol o fewn dyddiau wrth i swyddogion adolygu deunydd CCTV a fideo a recordiwyd ar gamerâu corff.

Rhybuddiodd y bydd “y troseddwyr yn wynebu grym llawn y gyfraith”, a dywedodd fod yr heddlu’n gweithio gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol i geisio mynd i’r afael â “chynnwys ar-lein sy’n hyrwyddo trais a lladrad”.

Ychwanegodd Syr Sadiq: “Nid yn unig eu bod wedi lledaenu ofn yn y gymuned leol, ond mae ymosod ar a bygwth staff manwerthu gweithgar a swyddogion heddlu yn droseddau difrifol.”

Dywedodd Heddlu’r Met eu bod yn mabwysiadu “dull dim goddefgarwch” tuag at unrhyw fath o drosedd.

Roedden nhw wedi cynyddu nifer y swyddogion mewn ardaloedd lle’r oedd problemau ac yn ystyried defnyddio gorchmynion gwasgaru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.