Bocsio: Lauren Price yn gobeithio amddiffyn ei theitlau byd yng Nghaerdydd

04/04/2026
Lauren Price

Bydd Lauren Price yn gobeithio amddiffyn ei theitlau byd nos Sadwrn yn erbyn Stephanie Pineiro yng Nghaerdydd.

Fe fydd Price yn amddiffyn gwregys pwysau welter y WBC, WBA ac IBF, gyda'r fantais gartref yn hwb mawr iddi.

Nid yw Price wedi bocsio ers ychwanegu'r beltiau WBC ac IBF i'w theitl WBA yn y fuddugoliaeth sylweddol yn erbyn Natasha Jonas yn Llundain ym mis Mawrth y llynedd. 

Dywedodd Price "nad oes unrhyw deimlad fel yr un wrth gerdded allan i dorf o Gymru.

"Mae 4 Ebrill yn fwy na dim ond ceisio cadw fy nheitlau, dwi eisiau cadarnhau fy ngwaddol. Mae Stephanie yn wrthwynebydd o safon fyd-eang, ond dwi wedi profi dro ar ôl tro fy mod i ar y brig i aros. 

"Mae'r teitlau yn aros yng Nghymru."

Enillodd Price, 31, fedal aur Olympaidd yn Tokyo 2020, sef y bocsiwr cyntaf o Gymru i wneud hynny, cyn troi yn broffesiynol yn 2022. 

Nid yw Stephanie Pineiro wedi colli mewn 10 gornest broffesiynol, ond nid yw hi erioed wedi ymladd y tu allan i Puerto Rico. 

"Efallai fod gan Lauren y cefnogwyr cartref ar ei hochr hi, ond mae gen i wlad y tu ôl i mi hefyd," meddai Pineiro

"Dwi'n dod er mwyn mynd â'r beltiau yn ôl i Puerto Rico."

Byddai buddugoliaeth i Price ei harwain ar y trwydydd i ddal y pedwar teitl byd.

Fe wnaeth fynychu'r ornest rhwng Mikaela Mayer a Sandy Ryan yn Las Vegas ym mis Mawrth, gyda Mayer yn amddiffyn ei theitl WBO pwysau welter.

Fe fydd y frwydr nos Sadwrn yn cael ei darlledu yn fyw ar y BBC Two o 20:00 ymlaen nos Sadwrn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.