Gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cael eu 'gwthio i'r eithaf'

Gofal Iechyd
Gofal Iechyd

Mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cael eu "gwthio i'r eithaf" gan system sy'n methu â’u cefnogi’n iawn, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn dweud eu bod wedi clywed tystiolaeth gan ofalwyr sydd wedi "erfyn" ac "ymladd" am gymorth.

Dywedodd y pwyllgor bod nifer ohonynt yn dweud eu bod wedi bod yn gofalu ers blynyddoedd heb gael eu cydnabod fel gofalwyr gan weithwyr proffesiynol.

Mae mwy na 310,000 o bobl yng Nghymru – sef un o bob 11 – yn darparu gofal di-dâl, ac ym mis Mawrth 2024, dim ond 4,924 oedd â chynllun cymorth. 

Mae rhai yn dweud eu bod wedi aros misoedd am asesiad, ond nad oedd gwasanaethau ar gael ar ôl hynny, a bod prinder o gyfleoedd gofal seibiant.

Mae'r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i drawsnewid y sefyllfa fel blaenoriaeth. 

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn "cydnabod y pwysau" y mae nifer o ofalwyr di-dâl yn eu profi a'u bod yn gweithio ar raglen o waith gwella cenedlaethol.

'Pryder'

Mae Ffiôn-Hâf Scott, 18 oed, yn gofalu am ei mam sydd â nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys diabetes a chyflyrau iechyd meddwl.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor, dywedodd mai'r brif her sy'n ei hwynebu ar hyn o bryd yw edrych ar ôl ei hun wrth ofalu am ei mam.

"Mae hynny'n dod yn fwy o her rwan, oherwydd dwi yn y chweched dosbarth, dw'n gweithio, a dwi’n gwneud llawer o bethau eraill hefyd," meddai.

"Ac mae trio rheoli'r pethau hynny, a chael y gorau allan ohonyn nhw, tra hefyd yn ceisio gofalu am rywun nad ydyn nhw’n gallu gwneud hynny drostynt eu hunain, dwi’n meddwl mai dyna, i mi, yw'r her fwyaf."

Mae Albie Sutton, 16 oed, yn gofalu am ei fam sydd â sawl anabledd. 

Byddai’n hoffi mynd i'r brifysgol ond mae'n poeni y bydd y rôl o ofalu yn disgyn ar ei frawd, sy'n rhy ifanc i ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwnnw. 

"Dwi yn y chweched dosbarth a dwi rhwng dau feddwl a allai fynd i'r brifysgol neu ddim, oherwydd dydy o [ei frawd] ddim mewn sefyllfa lle gall gymryd fy rôl ofalu. Mae'n gwneud i mi amau a ydw i'n mynd i allu dilyn addysg bellach," meddai.

"Mae 'na ychydig o bryder am fy mrawd amwn i ac a fydd o’n gallu gwneud y gwaith neu ddim, ond mae yna bryder i mi fy hun hefyd, a allai ddilyn y llwybr dwi eisiau ei ddilyn oherwydd nad oes ‘na neb sy'n gallu cymryd drosodd oddi wrthai."

Buddsoddi £13 miliwn ychwanegol

Dywedodd Peter Fox AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bod diffyg cefnogaeth yn "cyfyngu ar gyfleoedd bywyd" i ofalwyr ifanc.

"Rydym wedi clywed sut mae'n rhaid iddyn nhw 'erfyn' ac 'ymladd' am help, ar gyfer y bobl maen nhw'n gofalu amdanynt ac ar gyfer eu hunain," meddai.

"I ofalwyr ifanc yn arbennig, mae’r diffyg cefnogaeth yn cyfyngu ar gyfleoedd bywyd. Maen nhw'n treulio eu hamser yn yr ysgol yn poeni'n gyson; maen nhw'n colli cyfleoedd ac mae eu siawns o fynd i goleg neu brifysgol yn gyfyngedig iawn oherwydd nad oes neb i ymgymryd â'u rôl ofalu."

Mae'r adroddiad yn awgrymu sawl mesur ar gyfer mynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.

Maen nhw'n cynnwys hyfforddiant i holl staff ysgolion; arweinydd gofalwyr ifanc ym mhob ysgol a choleg; gorfodi hawliau gofalwyr ifanc yn iawn; a chyflwyno a hyrwyddo cardiau adnabod i ofalwyr ifanc mewn ffordd gyson ym mhob awdurdod lleol.

Yn ôl y Pwyllgor, byddai’r 35 o argymhellion sydd yn yr adroddiad yn helpu i drawsnewid y cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y pwysau" y mae nifer o ofalwyr di-dâl yn eu profi. 

"Mae gan awdurdodau lleol eu cyllid craidd i ddarparu cymorth i ofalwyr," medden nhw.

"Rydym yn gweithio ar raglen o waith gwella cenedlaethol ac wedi darparu £13 miliwn arall eleni i ddarparu cyngor ychwanegol a gwasanaethau lles i ofalwyr, seibiannau byr a chymorth ariannol brys.

"Rydym hefyd wedi bod yn ymgynghori ar strategaeth genedlaethol ddrafft newydd i wella cefnogaeth i ofalwyr di-dâl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.