Oedi i bigiadau'r ffliw oherwydd 'problemau cludo'

Fe fydd rhaid i nifer o apwyntiadau am bigiadau'r ffliw gael eu haildrefnu oherwydd oedi wrth ddanfon y brechlynnau i feddygon teulu.
Mae Seqirus, darparwr mwyaf o frechlynnau'r ffliw i'r DU, wedi cadarnhau bod oedi o bythefnos yng Nghymru a Lloegr yn sgil "heriau annisgwyl sy'n gysylltiedig ag oedi wrth gludo nwyddau ar y ffyrdd", yn ôl Sky News.
Fe wnaeth y cwmni anfon llythyr yn cynghori meddygon teulu i beidio ag ail-drefnu apwyntiadau nes bod dyddiad dosbarthu newydd wedi'i gadarnhau, yn ôl cylchgrawn y GP Online.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn "gweithio'n galed i ddatrys yr oedi".
Ni wnaeth y cwmni fanylu ar natur yr "heriau annisgwyl" na chrybwyll unrhyw gysylltiad gyda phrinder gyrwyr lorïau neu effaith Brexit, sydd wedi effeithio ar archfarchnadoedd a rhai busnesau bwyd yn yr wythnosau diwethaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.