Cyhuddo tri o lofruddio ar ôl i ferch 16 oed gael ei thrywanu
Mae tri o bobl ifanc yn eu harddegau wedi’u cyhuddo o lofruddio merch 16 oed a fu farw ar ôl cael ei thrywanu yn Leeds.
Bu farw Chloe Dransfield, o Gomersal, yn yr ysbyty ar ôl iddi gael ei chanfod gydag anafiadau difrifol ar Kennerleigh Avenue, yn ardal Austhorpe o’r ddinas, tua 6.00 ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog fod Kayla Smith, 18 oed, o Kennerleigh Avenue yn Leeds, ac Archie Rycroft, 19 oed, o Middleton Park Road, Leeds, yn ogystal â bachgen 17 oed na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi’u cyhuddo a’u cadw yn y ddalfa.
Bydd y tri yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Leeds ddydd Mawrth.
Ychwanegodd yr heddlu fod dyn arall 18 oed o Leeds wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn y ddalfa.
Mae trydydd dyn 18 oed a merch 17 oed a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.