'Anhygoel': Disgyblion o dde Cymru yn ennill cystadleuaeth beirianneg genedlaethol

Disgyblion Ysgol Cynwyd Sant

Mae athrawes i ddisgyblion mewn ysgol yn ne Cymru sydd wedi ennill cystadleuaeth beirianneg a gwyddoniaeth ledled y Deyrnas Unedig yn dweud ei bod "mor falch" o'i disgyblion.

Enillodd rhai o ddisgyblion Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg Rownd Derfynol Pencampwriaeth STEM Racing y DU.

Roedd y gystadleuaeth yn erbyn ysgolion ar draws y DU, ac Ysgol Cynwyd Sant yw’r ysgol gynradd Gymraeg gyntaf i gipio’r tlws.

Dywedodd Sian Thomas, athrawes y disgyblion bod y plant wedi gweithio "mor galed" yn ystod y gystadleuaeth.

“Mae’n deimlad anhygoel, ni ffili credu fe," meddai wrth Newyddion S4C.

“Ma’r plant wedi gweithio mor, mor galed a ni gyd mor browd ohonyn nhw."

Image
Disgyblion Ysgol Cynwyd Sant yn dathlu eu buddugoliaeth
Disgyblion Ysgol Cynwyd Sant yn dathlu eu buddugoliaeth

Fel rhan o'r gystadleuaeth, roedd yn rhaid i ddisgyblion roi siasi car at ei gilydd ac yna mynd ati i ddylunio corff y car fel rhan o'r gystadleuaeth.

Mae'r disgyblion hefyd yn creu arddangosfa o'u ceir ac yn rasio nhw yn erbyn ei gilydd.

Fe wnaeth yr ysgol ddanfon pump o dimau i'r gystadleuaeth ranbarthol yn Amgueddfa Sain Ffagan, gydag un o'r timoedd, y Phoenix Fires yn cyrraedd y rownd derfynol yn Rotherham.

Ychwanegodd Mrs Thomas fod y disgyblion wedi elwa llawer o'r profiad, gyda rhai yn dweud eu bod eisiau dilyn gyrfa mewn peirianneg.

“Mae’n anhygoel faint ma’r disgyblion wedi cael mas ohono fe, ti’n cael plant sydd yn rili dawel yn dechrau siarad mwy achos ma' hwn wedi ennyn diddordeb nhw," meddai.

“Ma’ eitha' tipyn ohonyn nhw nawr yn dweud eu bod eisiau gyrfa peirianneg neu gyda ceir, hyd yn oed trydanwyr rili.

“Mae’n dod a gwyddoniaeth yn fyw, yn ysbrydoli’r plant ar gyfer y dyfodol o ran swyddi hefyd. Mae un nawr eisiau gyrfa yn F1.

“Mae wedi agor drysau bydden nhw ddim wedi cydnabod o’r blaen.

“Hefyd mae'n brofiad yn hynod werthfawr a rhywbeth ma' nhw mynd i gofio am byth. Profiadau bythgofiadwy iddyn nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.