Yr Athro Delme Bowen wedi marw'n 82 oed

Yr Athro Ivor Delme Bowen

Mae'r Athro Delme Bowen wedi marw yn 82 oed.

Bu farw’r Athro Bowen yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ddydd Mercher.

Yn arbenigwr yn y maes bioleg celloedd, bu'n athro ym Mhrifysgol Caerdydd drwy ei yrfa academaidd gyfan.

Ei brif faes ymchwil oedd marwolaeth celloedd wedi’i raglennu, ac fe gyhoeddodd yn helaeth yn y maes. 

Ymhlith ei lyfrau roedd Cell Death in Biology and Pathology, Programmed Cell Death in Tumours and Tissues a Mitosis and Apoptosis

Ar ôl ymddeol o'i swydd yn y brifysgol, cafodd ei benodi yn Athro Emeritws.

Yn ogystal â’i waith ym maes bioleg celloedd, bu hefyd yn ymwneud ag ymchwil gymhwysol, yn enwedig i blâ. 

Bu ei waith ar wlithod a malwod yn edrych ar eu hymddygiad bwydo ac ar effeithiau molysgladdwyr, gan gynnwys effaith triniaethau cemegol ar lefel y gell. 

Yn ddiweddarach, bu’n cyfrannu at ddatblygu dulliau mwy naturiol, gan gynnwys defnydd o blanhigion fel modd i atal malwod.

O'r brifysgol i wasanaeth cyhoeddus

Cafodd yr Athro Bowen ei eni yng Nglanaman, ger Rhydaman, yn fab i löwr a merch fferm. 

Ar wahân i’w yrfa academaidd, roedd yr Athro Bowen yn ymrwymedig i wasanaeth cyhoeddus hefyd. 

Dechreuodd ym myd gwleidyddiaeth leol ar ddiwedd y 1970au, ac fe wasanaethodd am flynyddoedd fel cynghorydd ym Morgannwg ac yn ddiweddarach yng Nghaerdydd. 

Fel aelod gweithredol dros drafnidiaeth ar y cyngor, bu’n dylanwadu ar bolisi trafnidiaeth Caerdydd. 

Cyfrannodd at ddatblygu cynlluniau parcio a theithio, creu ardaloedd cerdded yn y canol dinas, a hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy. 

Bu hefyd yn gyfrifol am arwain y gwaith o adfer y cerfluniau anifeiliaid eiconig ar Wal yr Anifeiliaid yng Nghastell Caerdydd.

Fe gafodd ei ethol yn Arglwydd Faer Caerdydd yn 2011-12, sef y cyntaf o Blaid Cymru i ddal y swydd. 

Yn ei flynyddoedd olaf, fe symudodd i Lan y Fferi yn Sir Gaerfyrddin, gan ddychwelyd i’r gorllewin. 

Parhaodd i ddilyn materion cyhoeddus ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes Celtaidd a hanes cynnar Cymru.

Mae’n gadael pedwar o blant a saith o wyrion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.