Bachgen lleol 16 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i wrthdrawiad ffordd angheuol rhwng car a beiciwr yng Nghaerdydd ddydd Mecher.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 12:25, a hynny ar y gyffordd rhwng Heol Penarth a Heol Clare yn ardal Grangetown o'r Brifddinas.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd SsangYong Tivoli a beic.
Bu farw bachgen 16 oed o Grangetown a oedd ar y beic yn y fan a'r lle.
Mae gyrrwr y SsangYong Tivoli yn cynorthwyo swyddogion gyda'u hymholiadau.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Debbie Hobrough sydd yn arwain yr ymchwiliad: "Mae ein hymchwiliad i'r digwyddiad hynod o drist a thrasig yma yn parhau ac rydym yn gofyn am gymorth y cyhoedd wrth i ni geisio deall beth ddigwyddodd.
"Mae’r gyffordd lle digwyddodd y digwyddiad yn gyffordd brysur ac rydym yn annog unrhyw un yn yr ardal ar adeg y digwyddiad - a welodd yr hyn a ddigwyddodd - i gysylltu."
Mae teulu’r bachgen yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu hefyd wedi dweud eu bod yn "ymwybodol o luniau o'r digwyddiad hwn yn cael eu rhannu ar Facebook a mathau eraill o gyfryngau cymdeithasol."
Gan ychwanegu: "Ystyriwch yr effaith ar deulu'r dioddefwr a pheidiwch â rhannu hyn ymhellach."
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600092224.
(Llun - Google)
