Dynes o'r gogledd wedi prynu fodca a melysion ar ôl lladd ei chyn-bartner

Makepeace

Fe wnaeth dynes o'r gogledd brynu fodca a fferins ar gyfer ei thaith yn ôl i Gymru, ddiwrnod ar ôl lladd ei chyn-bartner yn Macclesfield ym mis Awst 2025.

Cafwyd Aurin Makepeace o Dan Y Don, Prestatyn, yn euog o lofruddio Steven Rothwell, 41 oed, yn ei fflat yn y dref, ar ddiwedd achos yn Llys y Goron Caer ddydd Mercher.

Bydd Makepeace, sydd yn 43 oed, yn cael ei dedfrydu ar 10 Ebrill.

Clywodd y llys fod Makepeace wedi ceisio cuddio ei throsedd ar ôl trywanu Mr Rothwell yn y fflat ar Cross Street yn dilyn dadl rhwng y ddau.

Roedd Makepeace a Steven yn gyn-bartneriaid oedd wedi cyfarfod yn y carchar. 

Er bod eu perthynas wedi dod i ben yn ffurfiol tua 2023, roedd y ddau wedi aros mewn cysylltiad rheolaidd â'i gilydd ac wedi bod mewn perthynas â phobl eraill.

Trywanodd Makepeace Steven Rothwell yn ei frest, gan aros yn y fflat dros nos cyn gadael y bore canlynol.

Galwadau 

Y diwrnod wedyn ar 19 Awst 2025, gwnaeth Makepeace nifer o alwadau i wahanol ffrindiau gan ddatgelu ei bod wedi trywanu Steven ac anfonodd nodyn llais at un person yn dweud, ‘Rydw i wedi llofruddio fy nghariad’.

Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Simon Mills o Heddlu Sir Caer yn dilyn y ddedfryd: “Honnodd Makepeace ei bod wedi ceisio atal Steven rhag gadael y cyfeiriad gyda’r gyllell ac wrth ymgodymu ag ef, aeth y gyllell i mewn i’w frest ar ddamwain. 

"Ond, ni allai Makepeace egluro pam iddi fynd yn ôl i ogledd Cymru ar y trên ac aros am rai oriau cyn ffonio’r heddlu a dweud celwydd am bwy oedd hi.

“Trwy ein hymholiadau helaeth a threfnus, llwyddom i leoli Makepeace ym Macclesfield yn y dyddiau cyn llofruddiaeth Steven. 

"Yna, fe wnaethom ddilyn ei symudiadau cyn ac ar ôl marwolaeth Steven, a’i dangos yn gadael Macclesfield y bore wedyn wrth stopio i brynu melysion a fodca ar gyfer y daith yn ôl i ogledd Cymru. 

"Roedd y dystiolaeth yn llethol, ond plediodd yn ddieuog, gan roi teulu Steven trwy fwy o boen a gofid calon.

“Ni chredodd y rheithgor gelwyddau Makepeace ac mae hi nawr yn mynd i dalu’r pris am ei thrais creulon a’i thwyll."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.