Matt Brittin i ddod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol newydd y BBC

Matt Brittin

Fe fydd Matt Brittin yn cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Cyffredinol newydd ar y BBC, yn dilyn ymadawiad Tim Davie ar ôl cyfnod cythryblus i'r Gorfforaeth Ddarlledu.

Mae Mr Brittin yn 57 oed ac roedd wedi gweithio am bron i 20 mlynedd gyda chwmni Google, gan ddod yn llywydd ar y cwmni yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica, nes iddo gyhoeddi ei benderfyniad i adael y llynedd.

Cyhoeddodd Davie, a oedd wedi bod yn y swydd ers 2020, ei ymddiswyddiad ym mis Tachwedd y llynedd, ynghyd â phrif weithredwr BBC News Deborah Turness, yn dilyn sgandal am y ffordd y cafodd araith gan Donald Trump ei golygu ar raglen Panorama.

Cafodd Mr Brittin ei ddewis yn aelod o dîm rhwyfo Olympaidd Prydain yn Seoul 1988 ac enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd ym 1989.

Rhwyfodd y cyn-fyfyriwr o Gaergrawnt hefyd yn y Ras Gychod rhwng Caergrawnt a Rhydychen yn 1987, 1988 a 1989.

Dywedodd Mr Brittin: “Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen BBC ffyniannus arnom sy’n gweithio i bawb mewn byd cymhleth, ansicr, sydd yn newid yn gyflym. 

"Ar ei orau, mae’n dangos i ni, ac i’r byd, pwy ydym ni. Mae’n ased eithriadol, unigryw ym Mhrydain, gyda dros 100 mlynedd o arloesedd mewn adrodd straeon, technoleg a phweru creadigrwydd. 

"Mae’n anrhydedd ac rwyf yn gyffrous i gael fy ngofyn i wasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.