Yr A55 ar gau i'r ddau gyfeiriad ger Rhuallt wedi nifer o ddamweiniau

Rhuallt

Mae ffordd yr A55 ar gau i'r ddau gyfeiriad ger Rhuallt yn Sir Ddinbych o ganlyniad i nifer o ddamweiniau.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y damweiniau wedi digwydd ar Allt Rhuallt o ganlyniad i amodau gyrru gwael fore Mercher.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Gyrrwch yn ôl yr amodau tywydd cyffredinol, arafwch eich cyflymder lle bo angen, ac osgoi defnyddio'r A55 nes bod y lôn wedi'i chlirio."

Nid oes unrhyw fanylion pellach am natur y damweiniau hyd yma, nag unrhyw adroddiadau am anafiadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.