Argyfwng prinder tai yn ‘rhoi bywydau dioddefwyr cam-drin domestig mewn perygl’
Argyfwng prinder tai yn ‘rhoi bywydau dioddefwyr cam-drin domestig mewn perygl’
Mae elusennau trais domestig yng Nghymru wedi rhybuddio bod prinder tai yn golygu bod nifer o ddioddefwyr yn methu ffoi rhag sefyllfaoedd peryglus.
Mae bron i 52% o geisiadau am loches yn cael eu gwrthod, oherwydd diffyg lle neu ddiffyg addasrwydd, yn ôl ffigyrau diweddar gan Women’s Aid Cymru.
Pan wnaeth Nancy, nid ei henw iawn, ffoi o’i chartref ar ôl i’w phartner ddechrau ei cham-drin, roedd hi’n teimlo fel nad oedd unrhyw opsiynau ar gael iddi hi. Ar ôl cael ei chynghori i roi’r gorau i’w thaliadau rent am resymau diogelwch, cafodd hi drafferth dod o hyd i ddewis arall, gan ei gadael yn ddigartref.
“Ces i fy nghynghori i wneud cais i’m cyngor agosaf am dŷ cymdeithasol neu dŷ brys.” meddai.
“Ddaethon nhw nôl a dweud y byddwn i’n debygol o gael tŷ o fewn 12 i 18 mis fel blaenoriaeth frys.
“Roeddwn i’n ddigartref am wyth wythnos. Does gen ti unman i fynd, dim to uwch dy ben, dim byd.
“Dim ond fi a’r gath yn y car ac mewn gwestai nes bod arian yn rhedeg allan.”
Yng Nghymru, mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus fel cynghorau wneud eu rhan i daclo trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, drwy sicrhau bod llety diogel ar gael yn lleol.
Mae ystadegau gan Shelter Cymru yn dangos bod dros 94,000 o bobl yn aros am dŷ cymdeithasol ar hyn o bryd.
Mae’r llywodraeth wedi gosod targed i adeiladu 10,000 o dai cymdeithasol ychwanegol erbyn 2026, ond maen nhw’n disgwyl methu’r nod erbyn diwedd y tymor Seneddol hwn.
Dywedodd Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr Women's Aid Cymru: “Mae yna alwadau sylweddol am lety ledled Cymru a’r DU, ac mae’r argyfwng tai yn effeithio ar hynny.”
“I bobl sydd angen ffoi, sydd angen lloches, mae yna lai o fannau llety diogel ar eu cyfer.
“Mae hyn yn broblem achos rydyn ni’n gweithio ar yr egwyddor o beidio gwrthod neb; rydyn ni eisiau i bawb fod yn ddiogel.”
Roedd gŵr ‘Jayne’, nid ei henw iawn, yn ei chamdrin. Penderfynodd Jayne i ffoi, ac mae hi’n dweud mai cael lle mewn lloches yw’r unig reswm ei bod hi dal yma heddiw.
“Fe wnes i stryglo i gael help am 30 mlynedd, doedd hi ddim fel nad oeddwn i wedi trio,” meddai.
“Roeddwn wedi cyrraedd y pwynt lle doeddwn i ddim yn gallu gweld sut i gario ymlaen i fyw. Achos roeddwn i’n teimlo fel fy mod yn achosi problemau wrth fodoli.”
Mae’r Uned Diogelwch Camdriniaeth Ddomestig / Trais Teuluol (DASU) yn cefnogi goroeswyr cam-drin ddomestig ac yn rhedeg lloches yng ngogledd Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr DASU, Gaynor Mckeown: “Y llynedd, cawsom ni 287 o atgyfeiriadau. Roedden ni’n gallu derbyn 137 ohonyn nhw; y gweddill, doedd gennym ni ddim y lle iddyn nhw, neu am resymau, doedden nhw ddim yn addas ar gyfer y lle oedd gennym ni ar y pryd.”
“Rydyn ni’n cael atgyfeiriad i DASU bob 12 munud, a dyna’r nifer uchaf i ni erioed ei gael.”
Pan ofynnwyd iddi sut y gallai prinder tai effeithio ar y dioddefwyr mwyaf bregus, dywedodd Mrs Mckeown: “Bydd pobl yn marw.
“Mae pobl yn teimlo nad oes unman i fynd ac, yn anffodus, maen nhw naill ai’n aros gyda’r person sy’n eu cam-drin, ac mae’r cam-drin yn gwaethygu, neu’n waeth fyth, maen nhw’n teimlo mai’r unig ffordd allan yw lladd eu hunain.”
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru roedd niferoedd "digynsail" o bobl yn ceisio am gymorth, ond bod rhentu preifat bellach yn llawer rhy ddrud i ormod o bobl.
Mewn ymateb, dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw wedi darparu £2 filiwn o arian ychwanegol eleni i gefnogi gwasanaethau trais domestig, gan weithio’n agos gyda phartneriaid i achub bywydau.