'Ar ei newydd wedd': Cyhoeddi carfan menywod Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Rygbi Menywod Cymru

Mae prif hyfforddwr Cymru Sean Lynn yn dweud bod carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod eleni "ar ei newydd wedd."

Ddydd Mercher fe wnaeth Lynn gyhoeddi ei garfan o 38 chwaraewr ar gyfer y bencampwriaeth, a fydd yn cychwyn ar 11 Ebrill.

Mae enwau newydd a chyfarwydd yn y garfan wrth i Gymru chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf ers mis Gorffennaf 2025.

Y blaenasgellwr Kate Williams sydd wedi’i henwi’n gapten, ac fe fydd yn arwain carfan newydd sy’n cynnwys naw chwaraewr sydd eto i ennill cap. 

Am y tro cyntaf mae'r propiau Stella Orrin ac Elan Jones, y bachwr Kendall Waudby, yr wythwr Jorja Aiono, y canolwyr Jenna De Vera, Savannah Picton-Powell a Kelsie Webster, a’r asgellwyr Nikita Prothero a Seren Singleton i gyd wedi’u cynnwys yn y garfan.

Chwaraeodd Orrin, Jones, Aiono, Picton-Powell, Webster, Prothero a Singleton ran allweddol wrth i dimau Brython Thunder a Gwalia Lightning gyrraedd rownd gyn-derfynol yr Her Geltaidd eleni.

Hefyd yn y garfan mae'r rheng ôl Alisha Joyce. Chwaraeodd i Brython Thunder y penwythnos diwethaf – 123 o ddyddiau’n unig ers iddi roi genedigaeth i’w mab ym mis Tachwedd 2025.

'Talentau disglair'

Ni enillodd Cymru un o'i gemau yn y Chwe Gwlad y llynedd.

Dywedodd Sean Lynn bod llawer o dalent yn ei garfan eleni, ac mae'n edrych tua'r dyfodol trwy ddewis chwaraewyr sydd heb ennill cap dros eu gwlad eto.

“Mae hon yn garfan ar ei newydd wedd," meddai.

"Fe ddywedon ni’n glir ar ddechrau’r tymor y bydden ni’n dewis chwaraewyr oedd yn chwarae rygbi’n gyson – boed hynny yn yr Her Geltaidd neu’n Uwch Gynghrair Lloegr. 

“Ry’n ni wedi enwi 25 o chwaraewyr sydd â phrofiad o gystadlu yn yr Her Geltaidd, ac ry’n ni wrth ein bodd bod llawer iawn o dalentau disglair yn dod drwy ein llwybrau datblygu ac yn chwarae’n rheolaidd erbyn hyn. 

“Ry’n ni ar ddechrau cylch newydd o bedair blynedd wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan y Byd. Mae angen i ni edrych tua’r dyfodol, ac mae hynny’n golygu rhoi cyfle i chwaraewyr gael blas ar chwarae mewn Gemau Prawf. 

“Mae gennym gymysgedd dda o chwaraewyr rhyngwladol profiadol a nifer o wynebau newydd hefyd. Fe wnes fy newisiadau ar sail y chwaraewyr sydd wedi dangos yr awydd mwyaf i ddysgu a gwella – gan wneud hynny drwy weithio’n galed."

Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Principality ar 11 Ebrill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.