Hystings cenedlaethol yr Urdd yn 'gyfle i bobl ifanc holi gwleidyddion'

Hystings cenedlaethol yr Urdd yn 'gyfle i bobl ifanc holi gwleidyddion'

Cyfle i herio, i ddysgu ac i ddadlau.

Yn y brifddinas, dyma dros 150 o bobl ifanc o bob cwr o'r wlad yn dod at ei gilydd, yn hystings cenedlaethol yr Urdd.

Digwyddiad lle mae etholwyr yn holi'r ymgeiswyr mewn etholiad.

I nifer yma, dyma fydd eu tro cyntaf yn pleidleisio mewn etholiad.

Mae heddi'n gyfle i holi am atebion gan wleidyddion ac i godi llais am y materion sy'n bwysig iddyn nhw.

"Dyma'r tro cyntaf i fi bleidleisio a dw i'n gyffrous am y peth.

"Dw i'n gweld gwleidyddiaeth yn gyffrous ac mae'n braf cymryd rhan."

"Mae'n braf cael llais wrth bleidleisio.

"Mae pethau 'ma'n effeithio pawb ac mae'n bwysig bod pawb yn cael llais.

"Hefyd, bod pawb yn cael yr hawl i bleidleisio."

Yn ôl yr Urdd, mae'r digwyddiad yn bwysig i bobl ifanc godi eu llais.

"Bwriad heddiw yw sicrhau bod ni'n rhoi llais i bobl ifanc.

"Rhan o werthoedd craidd yr Urdd yw sicrhau hynny.

"Mae hwn yn dangos bod ni'n parhau i fod yn gyfoes ac yn dod a phobl ifanc i gwrdd a gwleidyddion a holi cwestiynau.

"Gobeithio bydd hyn yn ysbrydoli nhw i bleidleisio ar 7 Mai."

Trio ennill bleidlais mae'r gwleidyddion ond pa materion sy'n poeni pobl ifanc mwyaf yn 2026?

"'Swn i'n deud iechyd ac addysg.

"Mae'n fam i'n gweithio'n Ysbyty Gwynedd. Lle mae hi'n gweithio, sna'm gymaint o straen ond mae'n clywed gan eraill bod sdim digon o weithwyr.

"Mae gweld ambiwlansiau'n leinio i fyny sy'n dangos bod sdim lle i bobl.

"Gobeithio bydd rhywun yn gwneud rhywbeth amdano fo."

"Fel disgybl yng ngogledd Cymru, mae'r iaith Gymraeg yn bwysig i ni.

"'Dan ni'n byw mewn ardal Cymreig iawn.

"Mae'n braf bod ni'n cynrychioli'r iaith yn y ffordd yna. Mae'n bwysig bod pawb yn cael yr un hawl i siarad yr iaith."

"Mae 'na gymaint o straen ar yr NHS.

"I fi, fel person ifanc, yr NHS ydy'r broblem fwya."

Ar drothwy un o etholiadau pwysicaf yn hanes Cymru mae'r cyfle i holi, gwrando a thrafod cyn taro pleidlais ym mis Mai yn bwysicach nag erioed.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.